Mae undeb y GMB yn cynnal trafodaethau brys gyda chwmni dur Tata yn dilyn pryderon am swyddi ym Mhort Talbot.
Roedd adroddiadau dros y penwythnos yn awgrymu bod y cwmni yn bwriadu cau dwy ffwrnais chwyth a rhoi ffwrneisi trydan yn eu lle. Yn ôl yr undeb fe allai hynny arwain at golli miloedd o swyddi yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Ross Murdoch swyddog cenedlaethol y GMB eu bod nhw wedi trafod gyda rheolwyr Tata dros y penwythnos i drafod yr adroddiadau.
“Eglurder”
“Fe fydd y cwmni yn trefnu cyfarfod gyda phwyllgor dur y Deyrnas Unedig cyn gynted a phosib. Yn ystod y cyfarfod yma fe fydd y GMB ac undebau dur eraill yn ceisio cael ymateb ac eglurder gan y cwmni,” meddai.
Ychwanegodd bod y GMB wedi galw ar weinidogion i ymuno yn y galwadau i ddiogelu’r diwydiant yn ystod cyfnod y coronafeirws, a hybu twf ar gyfer y dyfodol.
“Fe fydd y GMB yn brwydro i ddiogelu swyddi ein haelodau ym Mhort Talbot.”