Ni fydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Llanelwedd yn cael ei chynnal ar y maes eleni oherwydd pandemig y coronafeirws, yn hytrach mi fydd hi’n cychwyn ar-lein heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 20).

Bydd y sioe rithwir nid yn unig yn cynnig llwyfan i bartneriaid gynnal seminarau a sesiynau holi ac ateb byw, yn ôl gwefan Sioe Frenhinol Cymru, ond bydd yn “canolbwyntio hefyd ar addysgu’r cyhoedd ynglŷn ag amaethyddiaeth, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd.

“Bydd yn arddangos nifer o unigolion sy’n arbenigwyr yn eu maes i annog ymroi i sgil newydd neu arfer techneg newydd a fydd yn fodd i grefft draddodiadol barhau i fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ond mae’r trefnwyr yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at groesawu pobl yn ôl i’r maes y flwyddyn nesaf.

Nid yn unig y Sioe ei hunan fydd yn gweld eisiau’r maes eleni, ond mae sawl busnes yn yr ardal a’r cyffiniau yn elwa o’r digwyddiad yn flynyddol fel tafarndai, bwytai, parciau carafanau a gwestai.

Yn ôl un o berchnogion siop Penelope Primrose yn y dref, fel arfer y penwythnos cyn y sioe a’r penwythnos ar ôl  y sioe yw’r cyfnod gorau i fusnesau Llanelwedd.

“Fel arfer (yn ystod yr wythnos) mae’r dref yn llethol o dawel,” meddai Daniel Bevis.

“Dyna pam dw i’n meddwl fod llawer o siopau yn y dref yn cau yn ystod yr wythnos, ond rydyn ni wedi agor stondin ar y maes ers rhyw dair blynedd bellach, ac mae’n wych. Ond yn amlwg felly rydyn ni wedi colli allan ar hynny eleni.”

Ond, meddai, hyd yn hyn ar ddiwrnod cyntaf swyddogol y Sioe, mae hi wedi bod yn weddol brysur yn Llanelwedd.

“Mae cwpwl wedi dweud heddiw eu bod nhw wedi dod i Lanelwedd fel eu harfer er nad ydi’r Sioe ei hun ymlaen.”

Ymlaen a’r Sioe

Gan gydnabod bod pethau’n mynd i fod “ychydig yn wahanol” i’r “sioe orau yn y byd” eleni, dymunodd Llywydd NFU Cymru John Davies y gorau i’r sioe rithiol eleni.

“Rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn Sioe go iawn y flwyddyn nesaf lle gallwn gwrdd â’n holl ffrindiau unwaith eto,” ychwanegodd John Davies.