Mae clwstwr o achosion o’r coronafeirws wedi cael eu cadarnhau mewn canolfan alwadau profi ac olrhain y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn yr Alban.

Mae mesurau wedi cael eu cyflwyno gan y bwrdd iechyd yng Ngogledd Swydd Lanark er mwyn atal lledaeniad y firws yn safle cwmni Sitel yn Motherwell.

Dywedodd y GIG yn Swydd Lanark eu bod wedi cael eu hysbysu am achosion posib o Covid-19 yn yr ardal oedd yn gysylltiedig â’r ganolfan ddydd Sul (Gorffennaf 20).

Dywedodd llefarydd ar ran Profi ac Olrhain y GIG eu bod yn ymwybodol o achosion lleol o Covid-19 yn safle Sitel yn Motherwell a bod hyn yn cael ei reoli gan Sitel a’r staff yn y GIG yn Swydd Lanark.

“Mae pawb ar y safle bellach yn gweithio gartref tra bod y safle’n cael ei lanhau ac fe fyddan nhw’n cael cynnig prawf o fewn y 24 awr nesaf,” meddai.

Daw hyn wrth i’r Alban gyhoeddi 23 o achosion newydd o’r coronafeirws, y cynnydd mwyaf ers bron i fis.

Roedd tri o’r achosion hyn yn ardal bwrdd iechyd Swydd Lanark.