Bydd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab yn cyflwyno rhagor o fesurau mewn ymateb i benderfyniad Tsieina i osod cyfraith diogelwch genedlaethol newydd a llym ar Hong Kong yng nghanol tensiynau cynyddol â Beijing.

Mae’r Llywodraeth yn edrych yn debygol o ddilyn esiampl yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia a gohirio cytundeb y Deyrnas Unedig gyda’r diriogaeth – cam a fyddai’n debygol o gythruddo Tsieina.

Mewn arwydd cryf ei fod yn barod i ddilyn yr un llwybr, cadarnhaodd Dominic Raab dros y penwythnos ei fod wedi cwblhau adolygiad o drefniadau estraddodi Prydain fel rhan o’r camau nesaf.

Ar ol penderfyniad  y Llywodraeth yr wythnos ddiwethaf i wahardd Huawei o rwydwaith 5G, roedd Dominic Raab wedi cyhuddo’r drefn gomiwnyddol o “gam-drin hawliau dynol” yn erbyn poblogaeth Uighur, y wlad yn nhalaith ogledd orllewinol Xinjiang.

Dywedodd Llysgennad Tsieina yn y Deyrnas Unedig, Liu Xiaoming, fod Beijing yn dal i werthuso ei ymateb i ddyfarniad Huawei.

Dial

Cafwyd adroddiadau yn ystod y penwythnos fod y cwmni cyfryngau cymdeithasol Tsieineaidd TikTok wedi chwalu’r trafodaethau i agor pencadlys byd-eang ym Mhrydain a dywedwyd hefyd bod swyddogion y blaid gomiwnyddol wedi rhybuddio cwmnïau o’r Deyrnas Unedig sy’n gweithredu yn Tsieina, gan gynnwys Jaguar Land Rover, BP a GlaxoSmithKline, y gallan nhw wynebu dial.

Rhybuddiodd Liu Xiaoming Prydain i beidio â chael ei thynnu i mewn i wrthdaro “dant am ddant” yn y ffordd y cafodd yr Unol Daleithiau, ond mynnodd Dominic Raab fod Prydain am gael “perthynas gadarnhaol” gyda Tsieina, gan weithio gyda hi ar faterion fel newid  hinsawdd yn ogystal â masnach a buddsoddi.

Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod cysylltiadau’n dirywio ymhellach, ac mewn cyfweliad a’r BBC ddydd Sul, (Gorffennaf 19), roedd Liu Xiaoming wedi cyhuddo Prydain o ddilyn yr Unol Daleithiau a chyhuddo gwledydd gorllewinol o geisio corddi “rhyfel oer newydd” gyda Tsieina.