Mae Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg wedi ymateb i gyhuddiadau dau o gyn-gricedwyr y sir o hiliaeth sefydliadol o fewn y clwb.

Gwnaeth Imran Hassan a Mohsin Arif sylwadau wrth siarad â’r Daily Telegraph ddoe (dydd Mercher).

Daw’r sylwadau ar adeg pan fo hiliaeth yn y byd criced o dan y chwyddwydr, gyda Swydd Efrog ac Essex yn destun sawl ffrae.

Mae Azeem Rafiq wedi cyhuddo Swydd Efrog o hiliaeth sefydliadol, tra bod cwrw wedi cael ei daflu dros Feroze Khushi, chwaraewr Mwslimaidd Essex, wrth i’r tîm godi Tlws Bob Willis ddechrau’r wythnos hon.

Mohsin Arif

Yn ôl Mohsin Arif, roedd y clwb yn ffafrio chwaraewyr â chroen gwyn yn ystod sesiynau hyfforddi, a bod yna ddiwylliant lle nad oedd croeso i chwaraewyr eraill.

Fe adawodd e Academi Morgannwg yn 11 oed, cyn dychwelyd i chwarae i ail dîm y sir flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae e’n cyhuddo cyn-chwaraewr Morgannwg o hiliaeth yn ystod gêm yn Uwch Gynghrair De Cymru, oedd wedi defnyddio sarhad hiliol ac wedi’i ofyn am ei “siop gornel” pan glywodd e fe’n siarad Hindi â chyd-chwaraewr.

Mae’n dweud nad oedd y chwaraewr dan sylw “yn teimlo bod yr hyn roedd e wedi’i ddweud yn syfrdanol nac yn annormal”.

“Yn sicr, doedd dim digon o gefnogaeth yno i Asiaid,” meddai am y clwb.

“Doedd Morgannwg ddim yn poeni o gwbl amdana’ i.

“Do’n i byth yn teimlo’n gyfforddus, er y ces i fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, a ches i fyth y cyfleoedd.”

Imran Hassan

Yn ôl Imran Hassan, cyn-chwaraewr Morgannwg a fyddai wedi bod y chwaraewr Asiaidd Prydeinig cyntaf i gynrychioli’r sir pe na bai e wedi cael trafferthion fisa, cafodd ei sarhau gan gricedwr arall a gafodd yrfa hir gyda Morgannwg.

Mae’n dweud iddo gael ei sarhau pan wnaeth e annog bowliwr y sir i fowlio’n gyflymach.

“Ges i fy ngyrfa, sut yrfa wyt ti’n mynd i’w chael?” meddai’r chwaraewr wrtho, cyn ychwanegu y byddai’n mynd yn ei flaen i “wneud fy nghrysau a sanau gyda dy ewythrod mewn ffatri”.

Mae’n dweud iddo adael y cae yn ei ddagrau ar ddiwedd y gêm.

Datganiad

Mae Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi datganiad yn ymateb i’r honiadau.

“Rydym yn bryderus iawn o glywed am brofiadau Mohsin ac Imran o fewn ein gêm yng Nghymru,” meddai’r datganiad.

“Mae digwyddiadau diweddar yn y gymdeithas wedi ein harwain i gyd i werthuso’n rolau wrth fod yn gynhwysol ac amrywiol ac rydym oll yn y byd criced yn cydnabod yr angen i newid ein gêm er gwell.

“Dydy criced ddim lle dylai fod, ac rydym yn amlwg yn drist yn sgil profiadau Mohsin ac Imran.

“I ni, mae hyn yn dechrau ar garreg ein haelwyd ein hunain, ac rydym yn weithgar wrth gymryd camau i ymgysylltu â chymunedau amrywiol yng Nghymru i wneud criced yn fwy hygyrch, cynhwysol ac amrywiol i bawb.”

Mae’r datganiad yn mynd yn ei flaen i grybwyll rhai cynlluniau sy’n anelu i gynnwys chwaraewyr o gefndiroedd lleiafrifol, megis ‘Beyond the Boundary’ ac Ysbrydoli’r Cenedlaethau, ac mae’r clwb yn dweud eu bod nhw’n aml yn cynnig tocynnau rhad ac am ddim i gemau i’r gymuned BAME.

Mae’r clwb hefyd yn cyfeirio at ddau chwaraewr o dras Asiaidd sydd wedi cynrychioli’r sir a phobol o dras Asiaidd yn cael sedd ar Fwrdd Criced Morgannwg, sy’n cynnwys Imran Hassan a sawl cynrychiolydd arall o’r gymuned Asiaidd yng Nghymru.

Mae gan Griced Cymru bwyllgor cydraddoldeb ers tair blynedd, meddai’r datganiad, a’i nod yw “sicrhau bod criced llawr gwlad a chymunedol yng Nghymru mor gynhwysol a chroesawgar â phosib i bawb”.

Mae Criced Cymru hefyd wedi ennill sawl gwobr am gydraddoldeb.

“Tra ein bod ni’n rhagweithiol yn ein hymdrechion i fynd â chriced allan i gymdeithas fwy amrwyiol, rydym yn gwybod fod rhaid i ni wneud mwy, ac rydym yn agored ac yn gwrando ar ffyrdd y gallwn ni wella ymhellach.

“Byddwn yn estyn allan i’r ddau chwaraewr yn y gobaith y gallwn ddysgu mwy am eu profiadau mewn cymaint o fanylder â phosib i gael eu hadborth, yn ogystal â siarad â grwpiau cymunedol ehangach fel y gallwn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle a phrofiadau wrth chwarae’r gêm yng Nghymru.”