Mae’n bosib na fydd Gareth Bale ar gael i chwarae i Gymru yn y tair gêm ryngwladol nesaf.

Mae rheolwr Tottenham Hotspur, Jose Mourinho, wedi dweud y bydd Bale yn treulio’r pythefnos nesaf yn gwella cyn gêm gyntaf bosibl i Tottenham yn erbyn West Ham ar Hydref 17.

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley ar Hydref 8, cyn teithio i Weriniaeth Iwerddon a Bwlgaria ar gyfer gemau Cynghrair Cenhedloedd UEFA.

“Mae gan Giggs feddwl mawr o honno ac yn deall pa mor bwysig yw’r cyfnod yma i Gareth, ond mae’n edrych yn debyg na fydd yn cael ei alw i’r tîm Cenedlaethol”, meddai Jose Mourinho.

“Mae’n gweithio’n galed iawn, yn ymroddedig iawn, yn broffesiynol iawn ac yn hapus iawn ond ddim eto yn barod ar gyfer y gêm yfory na’r penwythnos nesaf.

“Rwy’n credu y gall y pythefnos o [gemau] rhyngwladol fod yn bwysig iddo ar gyfer cam olaf ei adferiad a’i ffitrwydd, a gobeithio bydd yn gallu chwarae ar y penwythnos ar ôl y gêmau cenedlaethol.

“Gawn ni weld a yw’n bosib [iddo] gyrraedd yno gyntaf.”

Mae disgwyl i garfan Cymru gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach heddiw (Medi 30).