Mae Jose Mourinho wedi canmol Ryan Giggs am ddangos ei fod yn “gofalu” am Gareth Bale ar ôl i reolwr Cymru hepgor o garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr, Iwerddon a Bwlgaria
Oherwydd problem â’i ben-glin, nid yw Bale wedi chwarae i Spurs eto ers ailymuno â ar fenthyciad go Real Madrid yn gynharach y mis hwn.
“Rydym wedi cael sgyrsiau gyda Gareth a’r tîm meddygol ac nid yw’n hollol iawn ar gyfer y tro hwn,” meddai Giggs wrth gyhoeddi carfan 27 dyn.
“Nid yw’n ddim byd difrifol – dim ond un i gadw llygad arno. Mae wedi cymryd ychydig o amser i setlo i lawr ac nid yw’n hollol iawn.
“Wrth gwrs, mae Gareth bob amser yn cadw ei hun yn heini felly mae’n gallu dod yn ôl cyn gynted ag y bydd yr anaf yn iawn. Bydd yn ôl yn eithaf buan, byddwn i’n dychmygu.
“Roedd e [yn agos] ond rwy’n meddwl gyda’r amgylchiadau, gydag e’n mynd i glwb newydd, roedd yn rhaid i ni feddwl o ddifrif, nid yn unig am y tymor byr, ond y tymor hir.
“Rydyn ni eisiau cael Gareth yn ôl yn heini, ei gael yn chwarae mewn clwb mae’n ei adnabod yn dda. Bydd yn chwarae’n rheolaidd a dw i’n edrych ymlaen at ei weld yn y Premier League.”
Mae penderfyniad Giggs i ganiatáu i Bale barhau i wella’n iawn yn Tottenham yn ystod yr egwyl ryngwladol wedi plesio rheolwr Spurs, Jose Mourinho.
“Mae’n edrych fel bod Giggs yn gofalu am y chwaraewr ac yn deall pa mor bwysig yw’r cyfnod i Gareth,” meddai Mourinho.
“Dydy e ddim yn barod i chwarae, doedd e ddim yn gallu chwarae iddyn nhw. Ond byddai bod yno, a cholli’r gwaith y gall e wneud gyda ni, yn bwysig iawn i’r chwaraewr.
“Mae’r chwaraewr yn perthyn i Tottenham, mae’r chwaraewr yn perthyn i dîm cenedlaethol Cymru, ac mae’n edrych fel ei fod yn mynd i gael y cyfle hwn i weithio’n benodol ac i ddod yn ôl mewn amodau da.”
Ffarwel Ashley?
Mae Aaron Ramsey yn ôl ar ôl anaf, tra bod Chris Mepham a Joe Rodon yn dychwelyd, sy’n golygu nad oes lle i’r cyn-gapten, Ashley Williams, yn y garfan.
Mae gan Williams 86 o gapiau, ond mae bellach yn 36 a heb glwb felly mae yna gwestiwn a fydd yn chwarae dros Gymru eto.
Mae amddiffynnwr Luton Town, Tom Lockyer, yn colli allan gydag anaf i’w bigwrn ac mae James Lawrence o Anderlecht hefyd wedi’i adael allan.
Mae Ben Woodburn, Brennan Johnson a Rhys Norrington-Davies, sydd ar fenthyg yn Luton, ymhlith y bechgyn ifanc sydd yn y garfan.
“Rhaid i ni reoli’r munudau yn y gemau hyn,” meddai Giggs. “Y peth da nawr yw ein bod yn gallu defnyddio pump eilydd – chwech yn erbyn Lloegr gan ei bod yn gêm gyfeillgar.
“Rydyn ni eisiau chwarae yn erbyn y goreuon, ac mae Lloegr ymhlith y gorau yn y byd.
“Mae unrhyw gêm i Gymru yn erbyn Lloegr yn enfawr a thrwy ddefnyddio’r eilyddion yn ddoeth mae’n rhoi cyfle i chwaraewyr [ddangos eu bod yn haeddu lle yn y tîm] ar gyfer y ddwy gêm yn erbyn Iwerddon a Bwlgaria.”
Y garfan: Hennessey (Crystal Palace), Ward (Caerlŷr), A Davies (Stoke), Gunter (di-glwb), B Davies (Tottenham), C Roberts (Abertawe), Ampadu (Sheff Utd, ar fenthyg gan Chelsea), Mepham (Bournemouth), Rodon (Abertawe), N Williams (Lerpwl), Cabango (Abertawe), Norrington-Davies (Luton, ar fenthyg gan Sheff Utd), Ramsey (Juventus), J Williams (Charlton), Wilson (Lerpwl), Brooks (Bournemouth), Morrell (Bristol City), Vaulks (Caerdydd), Smith (Man City), Johnson (Lincoln, ar fenthyg o Nottingham Forest) , Levitt (Charlton, ar fenthyg gan Man Utd), James (Man Utd), Robson-Kanu (West Brom), Moore (Caerdydd), T Roberts (Leeds), Matondo (Schalke), Woodburn (Lerpwl).