Mae rheolwr tîm dan 21 Cymru, Paul Bodin, wedi enwi ei garfan i wynebu Gwlad Belg yn Leuven wythnos nesaf ar gyfer Rownd Ragbrofol Pencampwriaeth dan 21 UEFA, EWRO 2021.
Fe fydd pedwar chwaraewr o’r tîm dan 19 yn rhan o garfan Bodin am y tro gyntaf.
Bydd Ryan Astley, Joe Adams, Dan Williams a Sam Bowen yn teithio i Wlad Belg, ar ôl i’r gystadleuaeth EURO dan 19 cael ei ohirio tan fis Tachwedd.
Ar ôl chwarae ei gêm dan 21 gyntaf mis diwethaf, ni fydd Luke Jephcott ar gael oherwydd anaf, a ni fydd Terry Taylor na Harry Clifton ar gael wrth iddyn nhw hunanynysu ar ôl i chwaraewr neu aelod o staff y neu clybiau gael canlyniad COVID-19 positif.
Ar ôl pum gêm yn yr ymgyrch, mae Cymru yn eistedd yn y pedwerydd safle, pedwar pwynt tu ôl Gwlad Belg sydd ar frig y tabl.
Newidiadau i’r gystadleuaeth oherwydd Covid
Mae UEFA wedi cyhoeddi newid i strwythur y rownd ragbrofol, oherwydd effaith COVID-19.
Bellach, fe fydd y naw tîm sydd ar frig eu grwpiau a’r pum tîm gorau yn yr ail safle yn ymuno â Hwngari a Slofenia, sydd yn cynnal y bencampwriaeth flwyddyn nesaf.
Bydd rownd grwpiau’r bencampwriaeth yn digwydd rhwng 24-31 Mawrth gyda 16 tîm yn cael ei rhannu mewn i bedwar grŵp, a bydd yr wyth olaf yn dychwelyd i Hwngari a Slofenia ar gyfer gemau un-cyfle rhwng 31 Mai – 6 Mehefin.
Y garfan
Adam PRZYBEK (Ipswich Town), George RATCLIFFE (Caerdydd), Cameron COXE (Solihill Borough), Brandon COOPER (Casnewydd – ar fenthyg o Abertawe), Regan POOLE (Milton Keynes Dons), Joe LEWIS (Abertawe), Ryan ASTLEY (Everton), Joe Adams (Brentford), Morgan BOYES (Fleetwood Town- ar fenthyg o Lerpwl), Liam CULLEN (Abertawe), Dan WILLIAMS (Abertawe), Aaron LEWIS (Lincoln City), Sam BOWEN (Caerdydd), Mark HARRIS (Caerdydd), Siôn SPENCE (Crystal Palace), James WAITE (Caerdydd), Oliver COOPER (Abertawe), Ryan STIRK (Birmingham City)