Mae chwaraewyr tîm pêl-droed Lerpwl wedi bod yn cynnig eu cefnogaeth i’r Cymro Neco Williams ar ôl iddo gael ei sarhau ar wefan gymdeithasol Twitter yn dilyn ei gamgymeriad yn y fuddugoliaeth o 7-2 dros Lincoln yng Nghwpan Carabao yr wythnos ddiwethaf.
Fe wnaeth nifer o’r chwaraewyr a’r rheolwr Jurgen Klopp siarad â fe yn dilyn y digwyddiad, yn ôl yr is-reolwr Pep Lijnders.
Fe gollodd e’r meddiant cyn i Lincoln sgorio’u gôl gyntaf, ac fe wnaeth e atal ei dudalen Twitter ar ôl derbyn negeseuon sarhaus.
Er nad oedd Pep Lijnders wedi gwneud sylw am y digwyddiad, fe ddywedodd fod sarhad o unrhyw fath yn “anghywir”, gan ychwanegu nad yw “cefnogwyr go iawn” yn sarhau’r chwaraewyr.
‘Gofalu am ein gilydd’
“Fe wnaeth Trent [Alexander-Arnold] siarad â fe, fe wnaeth Virgil [van Dijk] siarad â fe, fe wnaeth Robbo [Andrew Robertson] siarad â fe – felly nid dim ond Jurgen neu fi,” meddai.
“Dyna sut rydyn ni’n gofalu am ein gilydd a dyna sy’n ein gwneud ni’n wahanol.
“Mae Neco yn un sy’n gwneud, ac mae’r rhai sy’n gwneud yn gwneud camgymeriadau.
“Dydyn ni ddim eisiau chwarae’n ddiogel, chwaraewr nad yw’n cymryd risgiau.
“Mae ein gêm yn seiliedig ar bawb yn mentro o bob safle, a dyna rydyn ni ei eisiau.
“Un o’r gwersi pwysicaf i bob bachgen ifanc sy’n dod drwodd, pob chwaraewr, yw mai gwendid yw cael eich dal yng nghanol clod a beirniadaeth.
“Dw i’n credu ei fod e wedi ymdopi’n dda iawn, a bod yn onest.”