Cafodd tîm pêl-droed Casnewydd noson siomedig neithiwr (nos Fercher, Medi 30), wrth iddyn nhw golli yn erbyn Newcastle ar ôl ciciau o’r smotyn yng Nghwpan Carabao.

1-1 oedd hi wedi’r 90 munud.

Aeth yr Alltudion ar y blaen drwy Tristan Abrahams yn gynnar yn yr ornest, ond roedd y sgôr yn gyfartal dair munud cyn y diwedd, wrth i Jonjo Shelvey rwydo.

Roedd llygedyn o obaith i Gasnewydd o’r smotyn pan gafodd ergyd Joelinton ei harbed gan Nick Townsend.

Ond cafodd cic Ryan Taylor ei harbed gan Mark Gillespie cyn i Brandon Cooper daro’i ymgais yntau dros y trawst.

5-4 oedd sgôr y ciciau o’r smotyn, a Newcastle yn fuddugol o 6-5 ar y cyfan.