Mae’r Cymro yn y car cyflym wedi blasu buddugoliaethau mawr yn Sweden a Thwrci, gan greu’r “Geraint Thomas effect” yn y byd ralïo…

Mae Emyr Penlan, cynhyrchydd rhaglen Ralïo ar S4C, yn dweud bod buddugoliaeth Elfyn Evans yn rali Sweden wedi cynyddu poblogrwydd y gamp fel y gwnaeth buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France gynyddu poblogrwydd seiclo.