Pe baech chi’n gorfod rhoi HMS Morris mewn cae i bori gyda cherddorion eraill o’r un brîd, mi fyddech chi falle’n eu corlannu nhw fewn gydag Ani Glass ac Alun Gaffey.

Fel y ddau ddifyr yna, mae HMS Morris yn creu miwsig trawiadol-o-wahanol… mi fyddai’r gwybodusion yn ei alw yn ‘art-roc’ am bod y gerddoriaeth yn glyfar, gyda gwahanol haenau, synau anarferol a rhywbeth cwyrci am y geiriau.

Mae’r band – sef y cariadon Heledd Watkins a Sam Roberts – newydd ryddhau eu trydedd sengl eleni.