Mae ’na lawer iawn o drafod ar lawio’r bêl yn y newyddion yr wythnos yma, oherwydd penderfyniadau dadleuol ar y caeau pêl-droed.

Ond yng Nghymru, yn y 19eg ganrif – llawer o flynyddoedd cyn i bêl-droed neu rygbi hyd yn oed ddechrau cael eu chwarae yn ffurfiol – roedd llawio’r bêl yn golygu rhywbeth hollol wahanol. Bysech chi’n gallu dadlau mai pêl-law oedd y gêm genedlaethol yng Nghymru tan i chwaraeon timau gymryd ein sylw.