Mae ceisio mwynhau’r celfyddydau yng nghanol pandemig fel gwisgo trowsus i gyfarfod Zoom.

Mae’n teimlo bach yn foethus, os braidd yn ddiangen. A dweud y gwir, dw i’n teimlo’n anghyfforddus yn mwynhau unrhywbeth yn rhy agored y dyddiau yma, tra bo cymaint dal i ddioddef, a’r haint yn magu nerth yn ein cymunedau unwaith eto.

Mae’n teimlo fel cyfaddefiad euog, felly, i sgwennu ’mod i wedi ymweld ag agoriad preifat mewn oriel dros yr wythnos ddiwetha’.