Mae’r byd yn lle tywyll iawn i lawer iawn o bobl ar hyn o bryd.

Mae’r feirws wedi heintio miliynau ledled y byd… a lladd miliwn. Does dim sicrwydd am yr effeithiau hir dymor ar y miliynau o bobl sy’n ymddangos ar hyn o bryd fel pe baent wedi gwella o’r feirws.

I’r rhai nad yw wedi effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw hyd yn hyn, mae ofn ac ansicrwydd ynghylch y dyfodol yn gadael ei ôl yn drwm.