Mae’n anodd gennyf gredu fod llawer o ddarllenwyr Golwg yn gefnogwyr brwd o’r darlledwr a’r newyddiadurwr talentog, Piers Morgan.

Yn wir, mae’n bosib i rai ohonoch dagu ar eich bara brith a thollti’ch panad, dim ond wrth ddarllen yr enw.

Ond, hei, rhowch gyfle bach i’r boi.

Achos, os at newyddion teledu’r BBC yr ydych yn troi gyda’r bore, mae ’na beryg eich bod yn colli cynnyrch mwy diddorol ar y sianel arall, sef Good Morning Britain.