Pan oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol y Strade, Llanelli, roeddwn yn aelod selog a brwyfrydig o’r gerddorfa. Roedd hyn am ddau reswm. Yn gyntaf, roedd mam yn dysgu’r delyn yn yr ysgol ac yn ffrindiau gyda’r athrawes gerdd oedd yn arwain y gerddorfa. Yn ail, mi fase wedi bod yn fwy derbyniol i mi ddweud wrth fy mam fy mod am redeg i ffwrdd gyda’r ‘Anti-Christ’ ‘na dweud nad oeddwn am fod yn aelod o’r gerddorfa. Dim dewis felly, ac ar ôl brwydro yn aflwyddiannus gyda’r piano a’r delyn, penderfy