Er gwaetha’r tristwch mawr, efo llawenydd y dylen ni gofio am Richard a Wyn Ail Symudiad.

Nid dim ond oherwydd natur heulog eu caneuon ond hefyd oherwydd y cyfraniad anferth a wnaethon nhw i’r byd roc yn Gymraeg, trwy ddilyn eu trywydd eu hunain.

Yn hynny o beth, er mor wahanol oedd eu cerddoriaeth, roedden nhw’n debyg i’r cawr arall o Aberteifi sydd newydd farw, Dave Datblygu.