Mae diffyg hyder a diffyg uchelgais yn bethau gwael,onid ydynt? Ond i ni, y Cymry, mae’r ddau beth bron yn grefydd.

Ein rôl naturiol yw’r taeog. Ni yw’r berthynas dlawd nad yw’n haeddu nac yn disgwyl llwyddo. I ni, mae ceisio cyfoeth personol yn bechod – ac mae gwario arian er mwyn mwynhau bywyd yn groes i’n natur.

Rydym wrth ein bodd fel sosialwyr tlawd yn cwyno am fywyd.

Gwae ni os defnyddir ceiniog o’n harian cyhoeddus ar faterion nad ydyn nhw’n ymwneud ag iechyd neu addysg.