Dwi’n bwyta oddi arno, mae’n cadw’r glaw oddi arnaf fi, mae’n rhan o hanes fy nheulu – ac mae’n clymu hanes ein cymunedau tlota’ gyda gorthrwm ar draws Fôr yr Iwerydd. Eitha’ peth, felly, i statws treftadaeth llechi gogledd Cymru – y dirwedd a’i creodd a’r cymunedau a adeiladwyd arno – gael ei gydnabod yr wythnos hon.