Un o fendithion byw yn yr Unfed Ganrif ar Hugain yw ei bod hi’n hawdd clywed am bethau drwy’r cyfryngau cymdeithasol na fyddai rhywun, fel arall o bosib, yn gwybod dim byd amdanyn nhw.

Heb Twitter, er enghraifft, fyddwn i fwy na thebyg yn gwybod dim am Kevin Stewart, Aelod SNP yn Senedd yr Alban.

Erbyn hyn, dwi’n gwybod ei fod e’n gyfrifol am dân mawr a rwygodd drwy eglwys Gatholig fach yn Glasgow.

Roedd yn dân hynod ddinistriol sydd wedi gadael yr adeilad yn adfail i bob pwrpas.