Cymeradwyo cais ardaloedd llechi Gwynedd i ddod yn safle Treftadaeth y Byd UNESCO oedd y newyddion mawr yr wythnos ddiwethaf. Rhaid cymeradwyo amserlennwyr S4C hefyd am lwyddo i ddarlledu rhaglen ddifyr am yr ardaloedd hynny oriau’n unig wedi’r cyhoeddiad. Ychydig o gambl o bosib gan y gallai’r penderfyniad wedi mynd y ffordd arall ond fel y digwyddodd pethau, talodd ar ei ganfed.