Mae adroddiad diweddar ar annibyniaeth i Gymru yn “gymysgedd o wleidyddiaeth eithafol a gobeithion ofer”, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, y blaid sydd newydd gynnal cynhadledd rithiol.

Yn sgil yr etholiad cyffredinol y llynedd cafodd ‘Comisiwn Annibyniaeth Cymru’ ei greu gan Blaid Cymru er mwyn ymchwilio i’r mater, a bellach mae’r casgliadau wedi’u cyhoeddi mewn adroddiad.