Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud yn blwmp ac yn blaen na fydd yn ystyried clymbleidio â’r Ceidwadwyr yn sgil etholiad flwyddyn nesa.

Roedd y pôl piniwn diweddaraf yn darogan y bydd Llafur yn brif blaid yng Nghymru yn dilyn y bleidlais gyda 25 sedd, ond byddai’n methu ag ennill y 31 sedd sydd ei angen i fod â mwyafrif.

Byddai gan Blaid Cymru 15 sedd, ac 19 gan y Ceidwadwyr.