Mae cyn-Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd wedi apelio ar bob un blaid yn y Senedd i weithio gyda’i gilydd er mwyn mynd i’r afael â phroblemau tai haf Cymru.

Tros y penwythnos roedd aelodau o Gyngor Tref Nefyn, yn hen etholaeth Elfyn Llwyd, yn cerdded o Ben Llŷn i Gaernarfon i dynnu sylw at effaith tai haf ar gymunedau yno.

Mae sefyllfa ail gartrefi Cymru wedi bod yn dipyn o bwnc llosg dros y misoedd diwethaf, wrth i bobol leol fethu â fforddio cartrefi yn lleol.