Mae arweinwyr Cynghorau Sir yn y Gogledd sydd yn wynebu cyfyngiadau lleol wedi dweud fod y mesurau ychwanegol yn “hanfodol” i fynd i’r afael a chynnydd yn achosion o’r coronafeirws.
Mae gan y ddau gyngor arall yn y gogledd – Ynys Môn a Gwynedd – gyfraddau is o’r feirws ar hyn o bryd, ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw llygad ar y sefyllfa yno.
Amddiffyn iechyd pobol
“Rydym i gyd yn gwybod bod y ffigyrau’n codi, felly mae cymryd camau cynnar i reoli lledaeniad y firws ac i amddiffyn iechyd pobol yn hanfodol”, meddai Sam Rowlands, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy.
“Trwy gefnogi mesurau ychwanegol nawr, mae gennym well siawns o wyrdroi’r sefyllfa, gan gadw pobol yn ddiogel.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ei bod hi’n holl bwysig bod y siroedd yn cyd weithio a’i gilydd.
“Mae’n gwneud synnwyr i Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam weithio efo’i gilydd o ystyried y cynnydd mewn achosion”, meddai.
“Fodd bynnag, rwy’n pwysleisio y bydd y cyfyngiadau’n golygu na fydd preswylwyr yn cael teithio’n rhydd rhwng y siroedd dan sylw, oni bai bod ganddyn nhw reswm dilys.”
Mae’r cyfyngiadau’n golygu y bydd bron i 80% o boblogaeth dan fesurau llymach erbyn nos Iau.
Cydbwysedd rhwng iechyd a’r economi
Eglurodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y byddai’r cyfyngiadau yn cael eu hadolygu’n gyson a fod y “cydbwysedd rhwng iechyd pobol a’r economi” yn hollbwysig.
Ategwyd hyn gan Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint sydd yn cydymdeimlo â busnesau yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.
“Rydym yn gwybod y bydd llawer o fusnesau yn poeni am gyfyngiadau pellach”, meddai.
“Ond trwy gymryd y mesurau hyn nawr, rydym yn gobeithio y gallwn eu hamddiffyn rhag yr angen am gyfyngiadau tynnach yn y dyfodol.
“Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ac i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ychwanegol i fusnesau sy’n cael eu heffeithio gan y rheoliadau llymach hyn.”