Fe fydd cyfyngiadau coronafeirws llymach yn cael eu cyflwyno yn ardaloedd pedwar o awdurdodau lleol y Gogledd – Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam – o ddydd Iau (1 Hydref) yn dilyn cynnydd mewn achosion.
Fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AoS, y bydd y mesurau newydd yn dod i rym am 6pm ddydd Iau.
Mae’r cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o’r coronafeirws sydd wedi’u cadarnhau, a’r rheini’n gysylliedig â phobl sy’n cyfarfod dan do, yn peidio â dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, ac yn dychwelyd o wyliau’r haf mewn gwledydd tramor, meddai’r Llywodraeth.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfodydd gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r heddlu ledled y Gogledd ddydd Mawrth (29 Medi) i drafod y sefyllfa ar draws y rhanbarth.
Ar hyn o bryd, ni fydd cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno yn Ynys Môn na Gwynedd, lle mae nifer yr achosion yn is.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy’n byw yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam:
- Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i’r ardaloedd hyn na’u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu dderbyn addysg.
- Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o un.
Bydd y cyfyngiadau yn ychwanegol at y rheolau sy’n berthnasol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys:
- Rhaid i bob safle trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
- Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn ardaloedd pedwar o awdurdodau lleol y Gogledd, sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint Wrecsam a Chonwy. Mae’r rhain yn gysylltiedig i raddau helaeth â phobl sy’n cymdeithasu dan do ac mae’r patrwm trosglwyddo yn debyg i’r hyn yr ydyn ni wedi’i weld yn y De.
“Nid ‘clo’ cenedlaethol yw hwn”
“Rydym wedi gweithio’n agos gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol a’r heddlu yn y Gogledd ac rydym i gyd yn cytuno bod angen cymryd camau buan i reoli lledaeniad y feirws.
“Bydd rhannau helaeth o Gymru bellach yn destun cyfyngiadau lleol ond rwyf am fod yn glir – nid ‘clo’ cenedlaethol yw hwn. Cyfres o gyfyngiadau lleol yw’r rhain i ymateb i gynnydd mewn achosion mewn ardaloedd unigol.
“Mae bob amser yn anodd gwneud y penderfyniad i osod cyfyngiadau, ond rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol – yn union fel y gwelsom yng Nghaerffili a Chasnewydd, lle mae’r trigolion wedi tynnu ynghyd ac wedi dilyn y rheolau.
“Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd ac yn cefnogi ein gilydd. Nid mater o ddiogelu ein hunain yn unig yw hwn – ond diogelu ein gilydd.”
Ymateb Plaid Cymru
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, nad oedd y cyfyngiadau’n “syndod” ond galwodd am weithredu mesurau mwy “hyper-leol” at y dyfodol:
“Er efallai nad yw’n syndod, bydd y cyhoeddiad hwn yn ergyd drom i’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd hyn…” meddai Mr ap iorwerth, sy’n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd.
“Apeliaf ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth ofalus i ddefnyddio mwy o fesurau hyper-leol lle bo modd, gan ganolbwyntio ar glystyrau penodol.
“Byddai hyn yn llawer mwy effeithiol gyda system brofi gadarn sy’n gweithio’n iawn – gyda phrofion cyflym a chanlyniadau cyflym ar gyfer olrhain achosion yn gyflym; system nad oes gennym ar hyn o bryd ac sy’n rhywbeth y mae’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd ei ddatrys ar frys.”
Galwodd hefyd am strategaeth ar gyfer pobl agored i niwed mewn achosion o gyfyngiadau:
“Mae unigrwydd, unigedd a’r risg i iechyd meddwl yn un o’r pryderon gwirioneddol sydd gennyf ynghylch [y] cyfyngiadau a dylai fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth wedi’i thargedu at amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, er enghraifft caniatáu mwy o gyswllt i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain,” meddai.
Siom y Ceidwadwyr
Dywedodd Darren Millar, Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Dwyrain Clwyd bod y newyddion fel “ergyd ddinistriol i drigolion a busnesau”.
“Bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar fusnesau lleol, yn enwedig y rhai yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch”, meddai.
“Cafodd cwmnïau eu taro yn ddifrifol gan y cloi yn gynharach yn y flwyddyn a dim ond dechrau gwella maen nhw, mae’n hanfodol eu bod nhw’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.”
Ychwanegodd ei fod yn annog pobol i ddilyn y rheolau i helpu i gadw nifer yr achosion o’r feirws i lawr.
Cwestiynodd Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, pam fod y cyfyngiadau heb eu cyflwyno yn syth.
“Rwy’n gresynu, wrth gwrs, yr angen am gloeon pellach fel y’u gosodwyd yn Ne Cymru, ond yn wir yn gorfod cwestiynu pam eu bod yn cael eu cyflwyno ymhen 48 awr.
“Os oes angen cloi, yna siawns bod angen ei wneud ar unwaith, dydy Covid ddim yn gwybod pa ddiwrnod yw hi.”