Bydd gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael eu cyfyngu dros dro oherwydd cynnydd mewn achosion o Covid-19 yn yr ysbyty.
Mae gan yr ysbyty yn Rhondda Cynon Taf, un o’r ardaloedd sydd dan gyfyngiadau lleol, 82 o achosion o’r feirws.
Golygai hyn na fydd llawdriniaethau yn cael eu cynnal yn yr ysbyty am y tro a bydd cleifion sydd am ddefnyddio’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu hanfon i ysbytai eraill.
Mae disgwyl i’r wardiau hyn fod ar gau am bythefnos.
Bydd Canolfan Geni Tirion hefyd yn parhau ar gau dros dro tan Hydref 5.
‘Rheoli’r feirws yw’r flaenoriaeth’
“Rydym yn cydnabod y pryder y bydd y newidiadau dros dro hyn yn achosi ac yr hoffem sicrhau ein cleifion a’n cymunedau mai rheoli’r feirws yw ein blaenoriaeth”, meddai Paul Mears, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
“Nid yw’r penderfyniadau hyn wedi’u cymryd yn ysgafn, ac rydym yn deall y byddant yn effeithio ar ein cleifion, eu teuluoedd, ein staff a’n partneriaid.
“Fodd bynnag, mae diogelwch ein cleifion a’n staff yw ein blaenoriaeth a chredwn mai dyma’r ffordd orau i weithredu.”
Ychwanegodd Paul Mears fod adran frys yr ysbyty yn parhau ar agor, ond y dylai pobol ystyried cysylltu â gwasanaethau eraill fel 111, gwefan y Gwasanaeth Iechyd, a meddygon teulu cyn ymweld â’r adran frys.
“Peri pryder mawr”
Mewn ymateb i hyn dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y dewis i gyfyngu gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn “peri pryder mawr” iddo.
“Gan fod llawer o’r achosion yn gysylltiedig â throsglwyddo o fewn yr ysbyty rhaid gofyn cwestiynau ynghylch prosesau a phrotocolau sydd mewn lle yno”, meddai.
“Fodd bynnag, ar yr wyneb, mae’r sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn debyg i’r hyn ddigwyddodd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Gorffennaf.
“Ar y pryd, cyfaddefodd y Gweinidog Iechyd [Vaughan Gething] y gallai’r sefyllfa fod wedi cael ei rheoli’n well.
“Roeddem wedi gobeithio y byddai gwersi wedi’u dysgu, ond mae’n ymddangos nad ydy hyn yn wir.”