Fe fu’n ddadl danllyd rhwng yr Arlywydd Donald Trump a’i wrthwynebydd yn y ras am y Tŷ Gwyn, Joe Biden, yn ystod y ddadl deledu gyntaf cyn yr etholiad.

Bu’r ddau yn herio ei gilydd yn ystod y ddadl dros nos wrth iddyn nhw drafod y pandemig coronafeirws, hil, diswyddiadau a’r Goruchaf Lys.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Cleveland, Ohio ac fe aeth yn ddadl ffyrnig rhwng yr Arlywydd ac ymgeisydd y Democratiaid.

“Does dim byd clyfar amdanoch chi. Pedwar deg saith mlynedd a dy’ch chi wedi gwneud dim,” meddai Donald Trump wrth gyfeirio at gyfnod Joe Biden yn Washington.

Ond fe ymatebodd ei wrthwynebydd drwy alw Donald Trump yn “glown” a gwneud hwyl am ben ei steil o gynnal dadl.

Pandemig

Bu’r ddau’n gwrthdaro am benderfyniad Donald Trump i benodi Amy Coney Barrett fel olynydd i’r diweddar Ustus Ruth Bader Ginsburg yn y Goruchaf Lys, yn ogystal â chynlluniau’r Arlywydd am ofal iechyd fforddiadwy.

Ar ôl i Donald Trump feirniadu Hunter Biden, mab ei wrthwynebydd, fe drodd Joe Biden at y camera a dweud: “Nid yw hyn am fy nheulu i na’i deulu e. Mae hyn yn ymwneud a’ch teulu chi.”

Roedd yr ymgeisydd am yr Arlywyddiaeth hefyd yn feirniadol o’r modd roedd Donald Trump wedi delio gyda’r pandemig gan ei gyhuddo o beidio â chymryd y mater o ddifrif.

Fe ymatebodd Donald Trump drwy ddweud y byddai nifer y marwolaethau wedi bod yn llawer uwch petai Joe Biden yn Arlywydd a byddai’r economi wedi dioddef hyd yn oed yn fwy.

Fe wrthododd Donald Trump ddweud pryd fyddai’n cyhoeddi ei fanylion treth, yn dilyn adroddiadau yn y New York Times ei fod wedi talu $750 (tua £583) yn unig mewn treth incwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf.