Mae cwmni olew Shell wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cael gwared a hyd at 9,000 o swyddi yn fyd-eang yn dilyn gostyngiad yn y galw am olew oherwydd pandemig y coronafeirws.

Dywedodd Shell y bydd y diswyddiadau wedi’u cwblhau erbyn diwedd 2022.

Mae hynny’n cynnwys tua 1,500 o weithwyr sydd wedi cytuno i ddiswyddiadau gwirfoddol eleni, meddai’r cwmni.

Yn ôl Shell mae’r toriadau yn rhan o raglen eang i dorri costau ar ôl i’r busnes weld llai o alw am olew a gostyngiad sylweddol mewn prisiau yn sgil hynny.

Dywedodd Ben van Beurden, prif weithredwr Royal Dutch Shell bod angen i’r cwmni fod yn fwy “cystadleuol” gyda’r gallu i “ymateb i gwsmeriaid.”

Ychwanegodd bod Shell yn ystyried nifer o adrannau eraill lle fyddai’n bosib torri costau.

Ym mis Mehefin, fe gyhoeddodd cwmni olew BP ei fod yn cael gwared a hyd at 10,000 o swyddi er mwyn ymateb i effeithiau’r coronafeirws.

Mae Shell yn disgwyl i’r mesurau wneud arbedion blynyddol o tua £1.5 biliwn-£1.9 biliwn) erbyn 2022.