Roedd trydydd darlleniad Bil y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal yn San Steffan neithiwr (nos Fawrth, Medi 29).

Pasiodd y Bil ei drydydd darlleniad o 340 pleidlais i 256.

Ond roedd y cyn-brif weinidog Theresa May a dau gyn-dwrnai cyffredinol, Geoffrey Cox a Jeremy Wright, ymhlith 21 o Geidwadwyr na bleidleisiodd am y Bil dadleuol.

Daw hyn wedi i Theresa May ddweud wythnos diwethaf nad oedd modd iddi gefnogi Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Jeremy Miles, Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, hefyd wedi rhannu eu pryderon am y Bil.

Mae’r bil yn rhoi pŵer i’r Llywodraeth ddiystyru Cytundeb Masnach Rydd gyda’r Undeb Ewropeaidd a chytundeb heddwch Gogledd Iwerddon.

Bydd hyn, yn ôl Gweinidogion San Steffan, yn darparu “rhwyd ​​ddiogelwch cyfreithiol” i amddiffyn proses heddwch Gogledd Iwerddon os yw Prydain yn methu â chael cytundeb ar fargen masnach rydd  gyda’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Tŷ’r Arglwyddi

Bydd y Bil nawr yn cael ei drafod gan Dŷ’r Arglwyddi.

Er hyn mae’n debyg bydd ymdrechion pellach gan yr Arglwyddi i ddiwygio’r ddeddfwriaeth yno.

Mae nifer o Arglwyddi Ceidwadol – gan gynnwys cyn-arweinydd y blaid, yr Arglwydd Howard o Lympne – wedi lleisio eu gwrthwynebiad i’r Bil.

Cerdded i ffwrdd o drafodaethau ym Mrwsel

Mewn trafodaethau ym Mrwsel ddydd Llun, eglurodd Michael Gove, gweinidog Swyddfa’r Cabinet, nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i gefnu ar y Bil er gwaethaf bygythiad cyfreithiol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi dweud ei fod yn barod i gerdded i ffwrdd o drafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd os na ellir dod i gytundeb erbyn uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 15 gan y bydd yn rhy hwyr i’w weithredu cyn diwedd y cyfnod pontio.