Cael gwared a system arholiadau TGAU “draddodiadol ac anhyblyg” fyddai un o’r mesurau fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn eu cyflwyno.

Dyna fydd Siân Gwenllïan, Aelod o’r Senedd dros Arfon ym Mae Caerdydd, yn ei ddweud wrth amlinellu polisïau addysg Plaid Cymru yng nghynhadledd y blaid heddiw (Medi 30).

Bydd Siân Gwenllïan, Dirprwy Weinidog Addysg Plaid Cymru, yn dweud mai “nawr yw’r amser” i symud i ffwrdd oddi wrth systemau traddodiadol sy’n golygu bod dyfodol plant yn cael eu llunio yn ôl eu gallu i berfformio mewn arholiadau.

Mae’r angen am newid yn amlycach nawr gan fod y pandemig wedi gorfodi’r system addysg yng Nghymru i asesu graddau yn seiliedig ar waith y disgyblion, meddai Siân Gwenllïan.

Pwysleisia ei bod yn bwysig i gwricwlwm newydd Cymru gyd-fynd â system gymwysterau addas fydd yn asesu a datblygu sgiliau ehangach, ac yn cefnogi nodau ac amcanion y cwricwlwm.

Cyfatebiaeth rhwng yr addysgu a’r asesu

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion y cwricwlwm newydd ym mis Gorffennaf, ac mae disgyblion yn wynebu “anghysondeb” gan nad yw’r system asesu yn cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd, yn ôl Siân Gwenllïan.

Meddai: “Mae nifer o athrawon yn croesawu’r rhyddid sydd yn cael ei gynnig drwy’r cwricwlwm newydd sbon, ond mae’n rhaid cael system cymwysterau sy’n cyd-fynd â hyn.

“Pan fo’r addysg yn seiliedig ar ‘ddatblygiad graddol y disgybl,’ ond eu graddau yn cael eu pennu drwy arholiadau ‘un ateb sy’n addas i bawb’ ar ddiwedd y bum mlynedd – nid oes cyfatebiaeth yn eu haddysg.

“Wrth i ddisgyblion ddysgu sgiliau sy’n bwysig i gyflogwyr, ond eu hasesu ar sail pynciau ac arholiadau TGAU anhyblyg – nid oes cyfatebiaeth yn eu haddysg,” pwysleisia Siân Gwenllïan.

“Mae gan y cwricwlwm newydd botensial anferth os bydd yn cael ei sefydlu’n iawn, ond mae’n rhaid i’r system gymwysterau gyd-fynd â’r addysg.”

Defnyddio asesiadau athrawon? 

Mynna fod y “pandemig wedi dangos ei bod yn bosib defnyddio system raddio sy’n seiliedig ar asesiadau athrawon.

Gyda thrafferthion arholiadau’r haf mewn cof, nawr yw’r amser i adolygu’r gwaith sydd yn cael ei wneud gan Gymwysterau Cymru a bod yn ddewr – hyd yn oed os yw hynny’n golygu cael gwared ar y system arholiadau TGAU anhyblyg.”

“Yn y tymor hir, mae gan bobol Cymru ddewis ym mis Mai, a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod y system addysg yn dysgu ac yn asesu sgiliau sydd o bwys i gyflogwyr.”