Economi’r Deyrnas Unedig sydd wedi gweld y cwymp gwaethaf o unrhyw economi fawr, a hynny er bod y crebachiad yn llai difrifol na’r disgwyl yn ystod yr ail chwarter.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol gwelwyd cwymp o 19.8%.

Mae hyn yn is na’r amcangyfrif blaenorol o 20.4% ar gyfer yr ail chwarter.

Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu’r dirwasgiad mwyaf ers i gofnodion ddechrau.

Effaith Covid-19 ar y crebachiad

“Er bod yr amcangyfrifon hyn yn dueddol o gael eu hadolygu maes o law, mae’n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar effaith pandemig y coronafeirws ar y crebachiad sydd wedi digwydd”, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Mae’n amlwg bod y Deyrnas Unedig yng nghanol y dirwasgiad mwyaf erioed.

“Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos bod economi’r Deyrnas Unedig bellach 21.8% yn llai nag yr oedd ar ddiwedd 2019.”

Llai yn gwario a mwy yn cynilio

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos i’r cloi arwain at ostyngiad o 23.6% yng ngwariant cartrefi rhwng mis Ebrill a Mehefin.

Roedd pobol yn fwy parod i gynilio oherwydd hyn – cododd lefel cynilion i 29.1%, y lefel uchaf erioed.