Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi gwybod bod 32 o achosion o’r coronafeirws yn y brifysgol i gyd yn gysylltiedig â pharti mewn tŷ.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi rhybuddio myfyrwyr os cânt eu dal yn torri rheolau Covid-19 gallant golli eu lle ar eu cyrsiau.
Mae chwech o fyfyrwyr yn y brifysgol eisoes wedi derbyn rhybudd am dorri’r rheolau.
Gan nad yw’r achosion yn gysylltiedig â champws y Brifysgol nid yw Prifysgol Abertawe yn ystyried cadw myfyrwyr yn eu neuaddau, fel sydd wedi digwydd mewn prifysgolion eraill yng ngwledydd Prydain.
Yng Nghymru mae achosion wedi eu cadarnhau ym Mhrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.
Ond yn wahanol i Brifysgol Aberystwyth mae dysgu wyneb yn wyneb yn parhau ym Mhrifysgol Abertawe.
Un person yn gyfrifol
Eglurodd Andrew Rhodes, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol Prifysgol Abertawe mai un person heintiedig o du allan i’r ardal sydd yn gyfrifol am drosglwyddo’r feirws ymlaen.
“Rydym wedi gweld nifer rhesymol o achosion, ond does dim achosion yn y neuadd nac ar y campws, mae’r cyfan wedi bod mewn llety preifat”, meddai.
“Mae’r mwyafrif helaeth yn gysylltiedig â’r un digwyddiad ar Fedi 12 pan oedd clwstwr o bartïon.
“Mae yna rai myfyrwyr sydd wedi mwynhau eu hunain yn fwy nag y dylen nhw fod wedi’i wneud ond mae’r mwyafrif helaeth wedi bod yn wych.”
Ychwanegodd fod Prifysgol Abertawe eisoes wedi gwario £700,000 i ddiogelu’r campws.