Roedd Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain, Priti Patel, wedi gofyn i swyddogion archwilio cynlluniau i adeiladu canolfan brosesu ceisiadau lloches ar ynys folcanig yn ne’r Atlantig – dros 4,000 milltir o Brydain, yn ol adroddiadua.
Cafodd swyddogion y Swyddfa Gartref eu cymell i archwilio pa mor ymarferol fyddai trosglwyddo ceiswyr lloches o Brydain i ganolfan ar Ynys Ascension, tiriogaeth dramor sy’n perthyn i’r Deyrnas Unedig, yn ôl y Financial Times.
Opsiwn arall a gafodd ei ystyried oedd adeiladu canolfan loches ar Ynys St Helena, sydd yn rhan o’r un grŵp o ynysoedd sydd tua 1,000 milltir oddi ar arfordir gorllewinol Affrica.
Roedd y Swyddfa Dramor yn gwybod am y cynlluniau, a’r asesiad ar ymarferoldeb symud ffoaduriaid i leoliadau mor anghysbell.
Yn y diwedd, mae’n ymddangos i Priti Patel benderfynu peidio â gweithredu’r cynllun, er hynny, ni wadodd y Swyddfa Gartref i’r cynlluniau gael eu hystyried.
Dywedodd y Blaid Lafur bod y cynllun yn “annynol, hollol anymarferol a chostus dros ben.”
Diwygio polisiau a chyfreithiau
Meddai’r Swyddfa Gartref: “Mae gan wledydd Prydain draddodiad hir a balch o gynnig lloches i bobol sydd angen cael eu hamddiffyn.
“Mae degau o filoedd o bobol wedi ail-adeiladu eu bywydau yng ngwledydd Prydain, a byddwn yn parhau i gynnig ffyrdd diogel a chyfreithlon i ffoaduriaid allu cyrraedd yma.
“Fel mae gweinidogion eisoes wedi crybwyll, rydym yn datblygu cynlluniau i ddiwygio polisïau a chyfreithiau ynghylch ffoaduriaid anghyfreithlon a cheiswyr lloches er mwyn sicrhau ein bod yn gallu amddiffyn pobol sydd angen cael eu hamddiffyn, gan atal y system rhag cael ei chamddefnyddio, ac atal y trosedd sydd yn gysylltiedig â hi.”
Mae Ynys Ascension, sydd â phoblogaeth o lai na 1,000 o bobol, yn cael ei defnyddio i amddiffyn Ynysoedd y Falkland.
Byddai symud a chadw ceiswyr lloches yno yn achosi heriau mawr, mae’n debyg.
“Gwladfa gosb fodern”
Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur, Nick Thomas-Symonds fod y “syniad hurt yn un annynol, hollol anymarferol a chostus dros ben.
“Felly mae’n gwbl gredadwy bod y Torïaid wedi creu’r cynllun.”
Cytunodd llefarydd yr SNP ar fewnfudo yn San Steffan, drwy ddweud bod y modd mae Llywodraeth Prydain yn trin ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn “gwbl wenwynig ac annynol.
“Mae’r ffaith bod Llywodraeth Prydain hyd yn oed yn ystyried symud ffoaduriaid filoedd o filltiroedd i ynys folcanig anghysbell yn ne’r Atlantig, fel rhyw fath o wladfa gosb fodern, yn dod â gwarth ar Brydain ac yn nodweddu agwedd elyniaethus Llywodraeth Prydain tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches,” meddai Stuart McDonald.
Mae’r cynlluniau’n adlewyrchu dylanwad Awstralia – sydd wedi bod yn defnyddio canolfannau ar y môr er mwyn prosesu a chynnal ceiswyr lloches ers y 1980au – ar bolisïau Llywodraeth Prydain.
Eisoes, mae Llywodraeth Prydain wedi seilio eu system mewnfudo ôl-Brecsit ar yr un sydd mewn lle yn Awstralia.
Yn ddiweddar, bu Priti Patel yn cyfarfod â chyn-Brif Weinidog Awstralia, Tony Abbott, sydd yn adnabyddus am ei agwedd lem tuag at fewnfudwyr.
Cafodd ei benodi gan Boris Johnson fel cynghorydd masnach i wledydd Prydain ddechrau mis Medi, a bu cryn wrthwynebu ymhlith y Blaid Lafur.