Mae Cabinet Cyngor Powys wedi cytuno ar becyn o gynlluniau er mwyn newid addysg yn y sir.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwneud cais i Lywodraeth Cymru yn gofyn am gymeradwyo cynllun gwerth £48 miliwn ar gyfer ysgol gydol oes newydd ym Machynlleth, ynghyd â chanolfan hamdden, pwll nofio a llyfrgell newydd ar yr un campws.
Rhoddodd y Cabinet eu cymeradwyaeth i barhau ag ymgynghori ar gyfer datblygu campws ysgol Llanfair-ym-Muallt yn gampws cyfrwng Cymraeg i 450 o ddisgyblion.
Byddai cynnig addysg Gymraeg yn ddarpariaeth newydd i dde Powys, ble mae nifer sylweddol o ddisgyblion ar hyn o bryd yn mynd i Ysgol Gymraeg Ystalyfera yng Nghwm Tawe, neu i Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl.
Dywedodd cynghorydd Glantwymyn, Elwyn Vaughan, bod heddiw yn “ddiwrnod cyffrous i addysg ym Mhowys, nid yn unig o ran buddsoddi ym Machynlleth ond hefyd o ran y syniad o ddatblygu darpariaeth Gymraeg o’r newydd yn ne Powys.
“Mae angen cymryd camau breision o blaid addysg Gymraeg ym Mhowys a gobeithio bod heddiw yn gam ar y daith o wneud y newidiadau angenrheidiol.”