Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn trafod cynlluniau i wneud campws Llanfair-ym-Muallt Ysgol Calon Cymru yn un cyfrwng Cymraeg gydol oes heddiw (Medi 29).

Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn croesawu’r gwaith “trwyadl” sydd wedi ei wneud ar gyfer trawsffurfio addysg Gymraeg ym Mhowys dros y misoedd diwethaf, ac yn falch bod gwelliannau arwyddocaol a sylweddol i’w gweld yng nghynllun addysg y Cyngor Sir.

Ar hyd y blynyddoedd mae’r ddarpariaeth addysg Gymraeg i ddisgyblion Powys wedi bod yn “fratiog” ac “ansefydlog”, yn ôl y mudiad.

“Mae RhAG wedi cefnogi nifer o rieni ar hyd y blynyddoedd sydd wedi gorfod brwydro am ddarpariaeth gysonach ac eglurach i’w plant gyda nifer wedi penderfynu derbyn addysg Gymraeg mewn siroedd eraill a nifer mwy wedi gorfod derbyn darpariaeth annerbyniol sydd wedi bod yn anghyfartal ers blynyddoedd.”

“Cefnogwn y cynllun yn llwyr”

Aeth RhAG yn eu blaenau i ganmol y cynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru, sydd yn ysgol ddwyieithog â champysau yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod ar hyn o bryd.

“Mae’n amlwg fod yna gyfleoedd gwirioneddol yma i sefydlu darpariaeth addysg Gymraeg gynaliadwy a chynnig eglur i ddysgwyr yr ardal,” meddai’r mudiad.

“Y mae’n gyfle i ddatblygu canolfan arbenigol benodedig Gymraeg o fewn y sir a gall hyn gynorthwyo gyda chryfhau’r ddarpariaeth ar draws y sir yn y pendraw.

“Cefnogwn y cynllun yn llwyr.”

“Chwyldro”

Daw’r cynlluniau wrth i holl siroedd y wlad gychwyn trafod cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer y ddeng mlynedd nesaf, a bydd cynllun Ysgol Calon Cymru yn “gosod cynsail gref ac yn fodel ar gyfer camau pellach a fydd yn cryfhau’r ddarpariaeth yn y pendraw i rannau eraill y sir”.

Mae’n rhan o strategaeth Cyngor Sir Powys i sicrhau mynediad at ddarpariaeth Gymraeg “sy’n hygyrch ac sy’n darparu cwricwlwm llawn yn y Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar i 19 oed”.

Pwysleisia RhAG y “dylai addysg Gymraeg fod ar gael i bawb”, gan nodi fod hwn yn “gyfle euraidd” i Gyngor Powys “drawsnewid y ddarpariaeth unwaith ac am byth fel bod dysgwyr y sir yn cael y cyfle y maent yn ei haeddu o’r diwedd”.

Mynnodd Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru yng Nglantwymyn, y byddai cael ysgol Gymraeg gydol oes yn Llanfair-ym-Muallt yn “chwyldro yn nhermau addysg Gymraeg Powys”.