Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi’u cyhuddo o droi eu cefnau ar y Senedd ar ôl penderfynu ymuno dros y we yn hytrach na bod yno’n gorfforol heddiw (Medi 29).

Oherwydd bod Caerdydd dan gyfyngiadau lleol ers dydd Sul, dywedodd gweinidogion Llywodraeth Cymru eu bod wedi penderfynu peidio â theithio i’r Senedd.

Eglurodd y Llywydd Elin Jones ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn fod y cyfarfod yn cael ei gynnal ar ffurf ‘hybrid’ gyda rhai aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

“Bydd yr holl aelodau sy’n cymryd rhan yn nhrafodaeth y Senedd, le bynnag y maen nhw, yn cael eu trin yn gyfartal,” meddai.

‘Diystyru democratiaeth’

Pwysleisiodd Paul Davies arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud yn y Siambr, a hynny er mwyn rhoi’r cyfle i aelodau graffu ar Lywodraeth Cymru.

“Yr wythnos hon, rydych chi wedi penderfynu peidio bod yn bresennol yn y Siambr hyd yn oed”, meddai.

“Brif Weinidog, mae hyn yn diystyru democratiaeth ac yn gwbl annerbyniol.”

Wrth ymateb, ategodd y prif weinidog Mark Drakeford neges Elin Jones ar ddechrau’r cyfarfod fod gan aelodau’r hawl i fynychu’r cyfarfod llawn yn y Siambr neu dros y we.

‘Dal dau fys at y senedd’

Mae Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cyhuddo gweinidogion Llywodraeth Cymru o “ddal dau fys at y Senedd a’r wrthblaid”.

“Roedd gweinidogion Llafur yn medru gwneud cyfweliadau ddoe yn stiwdios ITV ym Mae Caerdydd – tafliad carreg o’r Senedd – ond doedden nhw ddim am drafferthu i fynychu Senedd Cymru heddiw,” meddai.

Awgrymodd Mark Reckless, arweinydd Plaid Brexit, nad oedd y Prif Weinidog wedi ystyried effaith y cyfyngiadau lleol yng Nghaerdydd ar y Senedd.

Roedd Mark Reckless hefyd yn anfodlon fod y prif weinidog wedi penderfynu ateb cwestiynau o’i swyddfa ym Mharc Cathays heddiw.

“Os ydych chi’n siarad o’ch swyddfa yna pam na ddewch chi i’r siambr?” meddai.

Eglurodd y Prif Weinidog ei bod hi’n “rhesymol” ac yn “ymarferol” iddo weithio o’i swyddfa ym Mharc Cathays.

“Er mwyn i mi ateb cwestiynau gan aelodau, mae angen cefnogaeth gan fy staff yn Llywodraeth Cymru, sy’n sicrhau fy mod mor barod ag y gallaf fod i ddarparu atebion y mae gan yr aelodau’r hawl iddyn nhw,” meddai.