Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dweud wrth golwg360 fod “pobol ddim yn deall ar faint mae myfyrwyr yn colli allan.”

Daw hyn ar ôl i’r brifysgol roi gwybod i fyfyrwyr am 11.30yh nos Sul (Medi 27) eu bod nhw wedi penderfynu gohirio dysgu wyneb yn wyneb.

Roedd rhai myfyrwyr yn y brifysgol wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

“Yn dilyn trafodaethau pellach heno gyda phartneriaid lleol ynglŷn â’r risg cynyddol o ledaenu Covid-19, rydym wedi gwneud y penderfyniad i ohirio dysgu wyneb yn wyneb dros dro,” meddai e-bost a gafodd ei hanfon at y myfyrwyr.

“Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd sydd yn rhannol gysylltiedig â’r ansicrwydd i ba raddau y mae’r feirws wedi lledaenu yn ein cymuned.

“Fe fyddwn yn adolygu ymhellach sut y gallwn symud ymlaen gyda’n cynlluniau i ddysgu wyneb yn wyneb wrth i ni gael rhagor o wybodaeth.

“Am y tro, arhoswch am gyfarwyddyd pellach gan eich tiwtoriaid ynglŷn â sut y bydd eich sesiynau dysgu yn cael eu cynnal.

“Yn y cyfamser, rwy’n parhau i bwyso arnoch i drin y sefyllfa hon gyda’r difrifoldeb pennaf.”

“Wedi bod yn edrych ymlaen”

“Roedd yn siom enfawr nos Sul pan ddaru ni ffeindio allan bo’ ni methu mynd i ddarlithoedd na’r campws,” meddai Lleucu Mair, sy’n astudio Cymraeg a Hanes ac yn ei thrydedd flwyddyn.

“Rydan ni wedi bod yn edrych ymlaen at gael mynd yn ôl ers i’r brifysgol orffen yn gynnar yn gynharach eleni.

“Dw i’n sylweddoli bod yn rhaid i’r brifysgol wneud penderfyniadau anodd ac ella fod o’r peth gorau i wneud, ond mi ddyla ni wedi cael gwybod cyn 11:30yh, mae hynna braidd y ridicilous.

“Er mae’r adrannau wedi bod yn grêt chwarae teg.”

Mae Lleucu Mair hefyd am i’r brifysgol wneud mwy o ymdrech i agor y llyfrgell yn llawn i fyfyrwyr.

Ar hyn o bryd, dim ond i nôl llyfrau y mae myfyrwyr yn cael mynychu’r llyfrgell.

“Mi ddyla nhw wneud mwy o ymdrech i agor y llyfrgell achos ar hyn o bryd ti methu mynd yno i ddefnyddio printar nag astudio na dim.

“Tydi tŷ llawn myfyrwyr ddim y lle gorau i ysgrifennu traethawd hir.

“Ac os ydi myfyrwyr yn gallu eistedd gyda’i gilydd mewn tafarn, pam na allwn ni wneud hynny yn y llyfrgell?”

“Pobol ddim yn deall ar faint mae myfyrwyr yn colli allan”

Aeth Lleucu Mair yn ei blaen i ddweud nad yw pobol “yn deall ar faint mae myfyrwyr yn colli allan.”

“Mae ’na lot yn licio cwyno am fyfyrwyr gwyllt, ond go iawn rydan ni isio addysg ac yn talu amdano.

“Dyw pobol ddim yn deall ar faint mae myfyrwyr yn colli allan arno… dim chwaraeon, dim corau, dim mynd i dai pobol eraill, a wan dim darlithoedd wyneb yn wyneb.”

“Rhwystredig”

Mae Ifan Wyn Erfyl, myfyriwr sydd yn ei flwyddyn gyntaf ac yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, wedi dweud wrth golwg360 fod penderfyniad y brifysgol i ohirio darlithoedd yn “rhwystredig”.

“Roedd y ffaith eu bod nhw wedi gyrru e-bost am 11:30 braidd yn rhwystredig oherwydd roedd nifer o bobol wedi bod yn paratoi am ddarlithoedd ben bore dydd Llun ac ati,” meddai.

“A ’dan ni ddim wir wedi cael dim byd concrete, jest bod darlithoedd wedi cael eu gohirio a bod y brifysgol yn adolygu’r sefyllfa.

“Maen nhw wedi dweud wrtha i am gael Microsoft Teams am y tro er mwyn cael darlithoedd ar-lein a dyna ni.

“A tydi hynny ddim yr un fath â bod mewn dosbarth, yn enwedig gyda phwnc fel Gwleidyddiaeth lle mae trafod pethau mor bwysig.”