Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi argymell fod deiseb sy’n galw am ymchwiliad llawn i lifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn gynharach eleni yn cael ei thrafod mewn cyfarfod llawn o’r Senedd.
Mae’r ddeiseb, a gafodd ei chyflwyno gan Heledd Fychan, Cynghorydd Tref Pontypridd sy’n cynrychioli’r dref ar Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf, eisoes wedi denu’r 5,000 angenrheidiol o lofnodion er mwyn bod yn destun dadl.
Mae’r ddeiseb yn galw am “ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus” i effaith y llifogydd ar gartrefi a busnesau’r sir, a bod “camau priodol yn cael eu cymryd i unioni unrhyw broblemau fel gellid osgoi difrod tebyg rhag digwydd eto”.
Mae’r ddeiseb hefyd yn nodi bod rhai cymunedau wedi cael eu taro gan lifogydd dair gwaith ers mis Chwefror, gyda chymunedau Pontypridd, Trefforest, Ffynon Taf, Trehafod, Cilfynydd, Rhydyfelin, Nantgarw, y Ddraenen Wen, Hirwaun, Abercwmboi, Aberpennar, Pentre, Treorci, Treherbert, Porth a Maerdy i gyd wedi cael eu heffeithio.
Yn ôl Leanne Wood, cafodd rhagor o gymunedau sydd heb eu henwi yn y ddeiseb eu taro’n wael hefyd – Blaenllechau, Ynys-hir ac Ystrad.
Mae’r ddeiseb yn galw am “ddysgu gwersi” o’r hyn oedd wedi digwydd, ac roedd pob aelod o’r pwyllgor o blaid cynnal dadl.
“Elwa ledled Cymru”
“Wrth gwrs, mae yna gymunedau ledled Cymru fydd yn elwa o weld ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd yn ein hardal ni,” meddai Leanne Wood, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn y Rhondda, sy’n aelod o’r pwyllgor.
“Oherwydd bydd dysgu i’w gwersi i’w dysgu mewn llefydd eraill.
“Dw i’n siŵr y bydd aelodau eraill yn cytuno bod y dystiolaeth yn gryf ac yn dorcalonnus mewn rhai achosion.
“A bydd unrhyw un sydd wedi siarad ag unrhyw un ynghlwm wrth y llifogydd yn gweld patrymau o faterion tebyg.
“Y pryder yw nad yw’r broses bresennol, Ymchwiliad Adran 19 sy’n digwydd, yn ddigon annibynnol.
“Y Cyngor sy’n edrych arno’i hun, mewn gwirionedd, gyda phartneriaid, ond mae gan yr holl bartneriaid hynny fuddiannau yn y mater hefyd.
“Felly mae yna broblem o ran hyder y cyhoedd yn nhermau annibyniaeth y broses Adran 19, ac mae rhan o hynny’n ymwneud â chyfarfod cyhoeddus a gafodd ei gynnal yn eithaf cynnar, lle gwnaeth arweinydd y Cyngor a chynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru annerch cyfarfod cyhoeddus a doedden nhw ddim yn gallu cytuno beth oedd yr achos na pha sefydliad ddylai gymryd cyfrifoldeb.
“Felly roedd pobol yn rhwystredig iawn o ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw ac yn credu y bydd y broses nawr yn cael ei heffeithio gan hynny.
“Mae hefyd yn hanfodol fod pobol yn cael eu clywed.
“Bydd y broses Adran 19 yn broses dechnegol, a fydd dim llawer o gyfle, nac unrhyw gyfle, i’r bobol gafodd eu heffeithio gael mewnbwn i’r broses honno.
“Mae’n bwysig iawn fod y lleisiau hynny’n cael eu clywed oherwydd mae yna arbenigedd lleol rhagorol o fewn y cymunedau hyn.”
Newid hinsawdd
“Mae’r pwynt olaf hwn ei wneud yn ymwneud â newid hinsawdd,” meddai wedyn.
“Mae’n rhaid adolygu ac edrych eto ar bopeth roedden ni’n ei ddeall o’r blaen yng ngoleuni’r newidiadau mae gwyddonwyr yn dweud wrthym eu bod nhw am ddigwydd.
“Mae’n bosib fod yr achos hwn o lifogydd yn un bach o’i gymharu â’r hyn y gallwn ddisgwyl ei weld yn y dyfodol, felly mae diogelu ein cymunedau yn y dyfodol a sicrhau bod pobol yn cael eu diogelu’n gwbl hanfodol.
“Mae’n hollol annerbyniol fod pobol yn ei chael hi’n anodd cysgu yn y nos bob tro mae’n bwrw glaw yn drwm oherwydd eu bod nhw’n poeni am ddŵr yn dod i mewn i’w cartrefi.
“Bydd hynny’n digwydd fwyfwy oni bai bod golwg annibynnol ar beth sy’n achosi hyn a chynnig argymhellion er mwyn atal hyn yn y dyfodol.”