Mae cais i ddefnyddio maes parcio ger safle Sioe Môn er mwyn gwneud gwiriadau tollau ar lorïau sy’n cyrraedd porthladd Caergybi wedi cael ei wrthod gan gynghorwyr a’i alw’n “anaddas” gan un ohonyn nhw sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
O ganlyniad i Brexit, bydd angen tir er mwyn gwirio lorïau sy’n cyrraedd Cymru o Weriniaeth Iwerddon.
Cafodd y cais i ddefnyddio’r tir ar Stad Ddiwydiannol Mona ei wrthod gan Gyngor Ynys Môn.
Mae’r tir yn eiddo i’r Cyngor ac ar lês i Gymdeithas Amaethyddol Môn, ac yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio adeg Sioe Môn.
Cafodd y tir hefyd ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth bws wennol yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 yn sgil llifogydd ar y maes ym Modedern y flwyddyn honno.
‘Anaddas
“Dwi’n pryderu yn fawr am y pentrefi cyfagos”, meddai Bob Parry wrth golwg360.
“Holl bwrpas yr A55 yw bod lorïau yn osgoi pentrefi bach fel Gwalchmai.
“Mae’n hollol anaddas i yrru’r lorïau i safle Mona drwy’r pentrefi yma.”
Mae oddeutu 400,000 o lorïau yn croesi’r môr i Iwerddon bob blwyddyn.
“Y rheswm arall dros wrthod y cynlluniau yw oherwydd mai at ddefnydd Sioe Môn a digwyddiadau eraill mae’r safle,” meddai wedyn.
“Byddai gosod y tir i Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig yn mynd yn erbyn y lês hynny.
“Heb benderfyniad pendant am gytundeb masnach gydag Ewrop, mae’n amhosib i ni baratoi yn iawn.
“Mae cymaint yn dibynnu ar hyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd fod Cyngor Môn yn ystyried safleoedd eraill sydd yn agosach i’r porthladd ac i’r A55.
Mae golwg360 wedi cysylltu â Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, am ymateb.