Mae Boris Johnson wedi ymddiheuro am fethu ag egluro’n gywir cyfyngiadau lleol newydd y coronafeirws yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Mae’n dweud iddo “siarad yn wallus” wrth geisio egluro rheolau newydd ddoe (dydd Llun, Medi 28) a fydd yn dod i rym heno (nos Fawrth, Medi 29).
Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur, wedi ei gyhuddo o ddiffyg ymwybyddiaeth o’r rheolau sy’n gwahardd aelwydydd estynedig rhag cymysgu yng nghartrefi’i gilydd ac yn gyhoeddus.
Mae’r rheolau’n ymwneud ag ardaloedd Northumberland, Newcastle, Gateshead, Tyneside i gyd, Sunderland a Swydd Durham.
Cyfarfod mewn gardd gwrw
Cafodd Boris Johnson ei holi gan ohebwyr am y rheolau’n ymwneud â grwpiau o chwech o bobol yn cael cyfarfod mewn gardd gwrw.
Dywedodd y dylai pobol ddilyn rheolau’r awdurdod lleol ond fod modd i chwech o bobol ddod ynghyd mewn cartrefi a lleoliadau lletygarwch, “ond nid chwech tu allan”.
Ond fe fu’n rhaid iddo droi at Twitter wedyn i egluro’i gamgymeriad.
“Ymddiheuriadau, fe wnes i siarad yn wallus heddiw,” meddai.
“Yn y gogledd-ddwyrain, mae rheolau newydd yn golygu na allwch chi gyfarfod â phobol o wahanol aelwydydd mewn lleoliadau cymdeithasol dan do, gan gynnwys tafarnau, bwytai a’ch cartref.
“Dylech chi hefyd osgoi cymdeithasu ag aelwydydd eraill tu allan.
“Mae hyn yn hanfodol er mwyn atal ymlediad y coronafeirws ac er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
“Os ydych chi mewn ardal risg uchel, plis wnewch chi barhau i ddilyn canllawiau’r awdurdodau lleol.”
‘Hollol analluog’
Mae Angela Rayner wedi cyhuddo Boris Johnson o fod yn “hollol analluog” yn dilyn ei gamgymeriad.
“Mae disgwyl i’r cyfyngiadau newydd hyn ddod i rym ar draws rannau enfawr o’r wlad heno.
“Mae angen i’r Llywodraeth afael mewn pethau.”
Daw sylwadau Boris Johnson ar ôl i Gillian Keegan, y Gweinidog Addysg, fethu ag egluro’r sefyllfa wrth wrandawyr rhaglen Today ar BBC Radio 4.
Yn ôl llefarydd ar ran Boris Johnson, mae manylion y cyfyngiadau’n dal heb eu cadarnhau’n llawn.
Mae rhai penaethiaid awdurdodau lleol yn dweud nad oedden nhw wedi cael gwybod am y cyfyngiadau cyn y cyhoeddiad.