Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynd adref dros y Nadolig.

Daw hyn ar ôl i’r prif weinidog Mark Drakeford gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gorfodi myfyrwyr i dreulio’r Nadolig ar eu campysau.

“Byddwn yn sicr yn ystyried hynny,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.

“Wrth i bobol deithio ar draws y Deyrnas Unedig, mae hynny’n cynyddu’r risg o’r feirws yn symud gyda nhw.

“Rydym yn adolygu ein rheoliadau bob tair wythnos.

“Felly gawn ni sawl cyfle rhwng nawr a mis Rhagfyr i benderfynu a ddylem neu [gyflwyno gwaharddiad] neu beidio.”

System brofi yn “methu” – Adam Price

Dywedodd Adam Price fod prifysgolion yn agor eu drysau ar yr adeg pan fo’r system brofi yn “methu”.

“Ar ôl cyrraedd y campws yr wythnos ddiwethaf, bydd myfyrwyr nawr yn poeni os byddan nhw’n cael mynd adref dros y Nadolig,” meddai.

“Mae prifysgolion yn agor eu drysau ar yr adeg pan fo’r system brofi yn methu.

“Nid oes cynllun clir i gefnogi myfyrwyr a does dim cynllun i gefnogi’r sector addysg uwch.

“Dyw’r Nadolig ddim ond 12 wythnos i ffwrdd.”

Myfyrwyr Lloegr yn cael mynd adref dros y Nadolig

Yn gynharach heddiw (dydd Mawrth, Medi 29), cyhoeddodd Ysgrifennydd Addysg Lloegr Gavin Williamson y bydd myfyrwyr yn Lloegr yn cael mynd adref dros y Nadolig.

Dywedodd y byddai gweinidogion a swyddogion yn creu cynlluniau ar sut i wneud hyn mewn modd diogel.

Ond mae Mark Drakeford yn dweud nad yw’n barod i drin pobol ifanc yn wahanol i ddinasyddion eraill yng Nghymru.