Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud y byddai cau ffiniau Cymru i bobol o’r tu allan er mwyn ceisio atal ymlediad y coronafeirws “yn ein harwain at bob math o diroedd amwys ac anodd”.
Roedd yn ymateb i bryderon Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Medi 29), wrth iddo grybwyll y golygfeydd ar ben yr Wyddfa dros y penwythnos, pan fo pobol yn dringo heb gadw pellter cymdeithasol.
“Bydd nifer ohonom wedi cael ein synnu a’n brawychu gan y golygfeydd ar ben yr Wyddfa dros y penwythnos – ciwiau hir o bobol yn ceisio cyrraedd y copa heb ystyriaeth o gwbl am ganllawiau cadw pellter cymdeithasol,” meddai arweinydd Plaid Cymru.
“Ond mae’n codi mater ehangach.
“Byddai nifer o’r rhain wedi bod yn ymwelwyr, a does dim byd wedi’i amlinellu yn y canllawiau ar hyn o bryd sy’n atal rhywun o gadarnle Covid yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig rhag teithio i ardaloedd o Gymru sydd ar hyn o bryd â lefelau isel o ymlediad cymdeithasol.
“Pam ei bod hi’n wir na allwch chi deithio o Aberafan i’r Fenni, ond y gallwch chi deithio o Fanceinion o Fynytho?”
Ymateb
Yn ôl Mark Drakeford, does dim tystiolaeth fod pobol yn teithio o ardaloedd eraill i Gymru yn dod â’r feirws gyda nhw, ac felly nad oes angen cau ffiniau Cymru ar hyn o bryd.
“Mewn gwirionedd, roedd y dystiolaeth wedi ymddangos yn llawer iawn mwy cadarnhaol na hynny,” meddai.
“Does dim enghreifftiau gyda ni o le mae’r feirws wedi mynd yn afreolus yn yr ardaloedd gwyliau hynny am ei fod e wedi cael ei gludo o rywle arall.
“Felly dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cael ein harwain gan y dystiolaeth, a’r dystiolaeth yw nad yw hynny wedi achosi anawsterau a dw i’n credu bod hynny o ganlyniad i ddau beth.”
Y ddau beth hynny, meddai, yw fod pobol “wedi clywed ein neges am ymweld â Chymru’n ddiogel” a’u bod nhw wedi gwneud “ymdrechion yn y cymunedau hynny i groesawu pobol o ardaloedd eraill, sydd mor bwysig i’r economi leol, tra’n gwneud hynny mewn ffordd nad yw’n peri risg i iechyd y cyhoedd”.
Teithio o un ardal i’r llall
Dywedodd, serch hynny, fod mater teithio o un ardal i’r llall yn “bwynt pwysig”, a’i fod e wedi annog Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i gyflwyno gwaharddiad ar deithio o un ardal i’r llall o fewn Lloegr ac i Gymru, neu rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, os yw nifer yr achosion yn uchel.
Ond mae’n dweud nad yw’n barod i gau ffiniau Cymru i bobol o’r tu allan ar hyn o bryd.
“Yng Nghymru, pan gawn ni gadarnle, rydym yn gofyn i beidio â theithio y tu allan i’r ardal honno ac eithrio ar gyfer rhai pwrpasau cyfyng sy’n cael eu manylu, a dydy mynd ar wyliau ddim yn un ohonyn nhw,” meddai wedyn.
“Fe wnes i ysgrifennu at y prif weinidog [Boris Johnson] ddoe yn ei annog e i wneud yr un fath yn Lloegr.
“Dw i ddim yn credu ei bod hi’n iawn i ni gyflwyno rheoliadau ffiniau ac atal pobol o lefydd eraill rhag ymweld â Chymru.
“Dw i’n credu y byddai hynny’n ein harwain ni at bob math o diroedd amwys ac anodd.
“Ond dw i’n credu, wrth i ni weithredu i atal pobol sy’n byw mewn cadarnleoedd yng Nghymru rhag teithio i Loegr a mynd â risg o’r feirws gyda nhw fel y dylai’r prif weinidog yn ei rôl yn brif weinidog ar Loegr yn yr achos yma wneud yr un fath ac atal pobol o gadarnleoedd yn Lloegr rhag teithio o lefydd eraill o fewn Lloegr i Gymru neu rannau eraill o’r Deyrnas Unedig oherwydd y risgiau digamsyniol sydd i hynny.”