Mae’n bosib y bydd rhaid i fyfyrwyr hunanynysu ar ddiwedd y tymor er mwyn dychwelyd adref yn ddiogel o brifysgolion Lloegr, yn ôl Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan.

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol ei bod yn “angenrheidiol” gosod mesurau er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr ddychwelyd adref dros y Nadolig a “lleihau’r perygl o ledaenu” Covid-19.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth, Medi 29), dywedodd efallai y bydd rhaid “gorfodi rhai myfyrwyr i hunanynysu ar ddiwedd y tymor a byddwn yn gweithio gyda’r sector er mwyn sicrhau fod hyn yn bosib, gan gynnwys drwy roi gorau i ddysgu wyneb yn wyneb os oes rhaid”.

Bydd canllawiau ar y mater yn cael eu cyhoeddi “yn fuan”, yn ôl Gavin Williamson.

Daw ei sylwadau wedi cynnydd sylweddol mewn achosion o Covid-19 mewn prifysgolion megis Glasgow, Manceinion a Chaeredin lle mae’n rhaid i filoedd o fyfyrwyr hunanynysu.

Prifysgolion wedi eu “paratoi yn dda”

Yn sgil y cynnydd mewn achosion a’r cyfyngiadau ar fyfyrwyr mewn neuaddau preswyl, mynnodd y Blaid Lafur gael sicrwydd y byddai myfyrwyr yn cael dychwelyd adref dros y Nadolig.

Mae pryderon wedi codi ynghylch y gefnogaeth sydd yn cael ei chynnig i fyfyrwyr sydd yn gorfod hunanynysu, gyda llywydd Llywydd Undeb Genedlaethol y Myfyrwyr (NUS), Larissa Kennedy, yn dweud fod myfyrwyr sydd yn hunanynysu yn cael eu “caethiwo” dan “amgylchiadau afiach”.

Mynnodd Gavin Williamson ei fod wedi galw ar brifysgolion i ddarparu “cymorth ychwanegol a chefnogaeth ymarferol” i fyfyrwyr, gyda phrifysgolion yn dweud eu bod yn “edrych ar ôl” myfyrwyr sydd yn hunanynysu, ac yn sicrhau “fod ganddynt fynediad at fwyd, darpariaethau meddygol ac offer glanhau.”

Pwysleisiodd fod prifysgolion wedi eu “paratoi yn dda” at gynnydd mewn achosion Covid-19, ac ychwanegodd y “dylai prifysgolion barhau i edrych ar ôl myfyrwyr sydd yn penderfynu aros mewn neuaddau preswyl dros y Nadolig, gan sicrhau eu bod yn saff”.

Mae disgwyl i fyfyrwyr ddilyn yr un canllawiau coronafeirws â’r gymuned leol, a ni ddylid cyflwyno “mesurau llymach ar gyfer myfyrwyr, na disgwyl iddyn nhw gyrraedd safon uwch nag unrhyw ran arall o’r gymdeithas”, meddai.

Llafur yn mynnu bod rhaid cael gafael ar yr argyfwng

Rhybuddiodd Kate Green, llefarydd addysg Llafur, y gallai’r “sefyllfa ailadrodd ei hun ledled y wlad” os nad yw Gavin Williamson yn “cael gafael ar yr argyfwng”.

“Ni fydd myfyrwyr yn gallu parhau gyda’u haddysg, bydd teuluoedd yn poeni am eu llesiant, a bydd prifysgolion yn wynebu trafferthion ariannol difrifol,” meddai.

Wrth gael ei holi am y cynlluniau ar gyfer y Nadolig, dywedodd Gavin Williamson y gallai myfyrwyr gael eu dysgu ar-lein mewn rhai “sefyllfaoedd penodol” er mwyn caniatáu i fyfyrwyr fynd adref.

“Ond, rydym yn rhagweld mai ar gyfer nifer fechan o brifysgolion y bydd hyn yn berthnasol,” pwysleisiodd.

Ar hyn o bryd mae prifysgolion yn cynnig “dysgu cyfunol”, yn gyfuniad o ddarlithoedd wyneb yn wyneb a dysgu ar-lein, er bod galwadau ar Boris Johnson i sicrhau bod darlithoedd yn digwydd ar-lein yn bennaf.

Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr wedi galw ar brifysgolion i ystyried ad-dalu ffioedd dysgu gan ystyried pob myfyriwr yn unigol.

Dywedodd Boris Johnson mai penderfyniad i brifysgolion unigol oedd penderfynu os ydyn nhw am ad-dalu ffioedd myfyrwyr sy’n gorfod hunanynysu.

Cymru

Yma mae Adam Price wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sichrau bod myfyrwyr yn cael mynd adref dros y Nadolig.

Daw ei alwad wedi i Brifysgol Aberystywth ohirio darlithoedd wyneb yn wyneb am y tro yn sgil achosion positif o’r coronafeirws.