Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynlluniau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gyda’r nod o ddod â diflastod cartrefi oer i ben.
Croesawodd elusen National Energy Action (NEA) Cymru’r cyfle i sicrhau mai dyma’r ymateb cryfaf posib i ddiflastod cartrefi oer ledled y wlad.
Mae NEA Cymru wedi cynhyrchu papur sy’n amlygu’r ymrwymiadau pwysig yr hoffent weld yng nghynllun terfynol Llywodraeth Cymru.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gyflawni targedau statudol blaenorol ar dlodi tanwydd, ond mae NEA Cymru yn galw am dargedau newydd uchelgeisiol a fydd yn monitro’r cynnydd yn rheolaidd rhwng nawr a 2035.
“Amser hollbwysig”
Pwysleisiodd Ben Saltmarsh, Pennaeth NEA Cymru: “Dyma amser hollbwysig.
“Mae pobol o bob oedran yng Nghymru’n profi caledi mewn cartrefi oer a llaith, gan gwtogi ar eu defnydd o ynni ac wynebu dyledion cynyddol.
“Heb gynllun difrifol ac uchelgeisiol, bydd tlodi tanwydd yn parhau i fod yn broblem ddinistriol yng Nghymru, gan ddifetha a byrhau gormod o fywydau.”
Mynnodd bod “targedau a cherrig milltir clir” yn hanfodol i sicrhau cynnydd cyson:
“Ar hyn o bryd, mae’r cerrig milltir dros dro ar goll ac mae angen mynd i’r afael â hyn.
“Mae’r ymgynghoriad yn gyfle da i gryfhau’r cynllun a deall faint o wahaniaeth y mae’n ei wneud mewn gwirionedd i o leiaf un o bob deg o bobol yng Nghymru na allant fforddio cartref cynnes ac iach,” meddai.