Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei thargedau ar gyfer dileu tlodi tanwydd er ei bod i weld yn symud yn y cyfeiriad cywir. Dyna un o brif negeseuon adroddiad, a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd wedi gostwng fwy na hanner mewn deng mlynedd – o 332,000 yn 2008 i 155,000 yn 2018.
Ond fe osododd Llywodraeth Cymru dargedau i ddileu tlodi tanwydd ymhlith yr holl grwpiau agored i niwed erbyn 2010, mewn tai cymdeithasol erbyn 2012, ac yn y boblogaeth gyffredinol erbyn 2018. Nid yw’r targedau hyn wedi cael eu cyrraedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £252m, sy’n cynnwys peth arian o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ar ei rhaglen Cartrefi Cynnes i leihau tlodi tanwydd, yn bennaf trwy wella effeithlonrwydd ynni cartrefi – ond hefyd trwy roi cyngor i bobol ar faterion megis cynyddu incwm i’r eithaf ac arbed ynni.
Yn 2018, amcangyfrifwyd fod canrannau’r rhai a oedd mewn tlodi tanwydd fel a ganlyn: 12% o’r holl aelwydydd yng Nghymru (155,000); 11% o’r aelwydydd agored i niwed (130,000); 9% o’r holl aelwydydd mewn tai cymdeithasol (21,000). Roedd 32,000 o aelwydydd (2% o’r holl aelwydydd) mewn tlodi tanwydd difrifol, yr oedd 19,000 ohonyn nhw’n aelwydydd agored i niwed.
Barn yr Archwilydd
“Mae byw mewn cartref oer, llaith, yn effeithio ar les meddyliol a chorfforol pobl ac mae ymdrin â chanlyniadau tlodi tanwydd yn cynyddu gwariant cyhoeddus arall, er enghraifft yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Cropton.
“Felly mae’n dda gweld bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl a’i fod i’w weld yn rhan o’r stori o ostwng cyfraddau tlodi tanwydd.
“Ond, o ystyried nad yw wedi cyrraedd ei thargedau ei hun i ddileu tlodi tanwydd, mae gwersi i Lywodraeth Cymru eu od,ysgu wrth iddi ystyried ei huchelgeisiau a’i rôl yn y dyfodol.”
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth iddi ymgynghori ar gynllun tlodi tanwydd newydd a’i gwblhau, gan gynnwys:
- Dysgu gwersi o’r methiant i gyrraedd y targedau cyfredol a bennwyd yn 2010 wrth benderfynu ar unrhyw uchelgeisiau newydd;
- Cysylltu cynlluniau tlodi tanwydd â gwaith arall i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi tanwydd;
- Ystyried sut y gallai cynlluniau tlodi tanwydd atal costau.