Mae’r Gweinidog Iechyd, Kirsty Williams wedi apelio ar fyfyrwyr sydd yn byw ac yn astudio mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol i barhau i ddilyn y rheolau.

Ond gwrthododd ddiystyru cyfyngu myfyrwyr i’w neuaddau preswyl, fel sydd wedi digwydd mewn prifysgolion eraill yng ngwledydd Prydain.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (Medi 30) croesawodd y Gweinidog Iechyd fyfyrwyr i Gymru, ond pwysleisiodd fod dyletswydd ganddynt i “ofalu am ei gilydd” ac am eu teuluoedd.

“Peidiwch â mynd adref os oes gennych symptomau, gan fynd â’r feirws gyda chi o bosib – dyna’r ffordd orau i ofalu am eich teulu,” meddai.

“Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb ac, yn fwy nag erioed, mae angen i ni i gyd gefnogi ein gilydd.

“Rydw i’n apelio ar fyfyrwyr sydd yn astudio mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol i ddilyn y rheolau sydd mewn lle.

“Rydw i’n ffyddiog bod y mwyafrif o fyfyrwyr sydd yma yng Nghymru yn byw ac yn astudio yn dilyn y rheolau sydd mewn grym yma.”

Mae adroddiadau fod chwech o’r wyth o brifysgolion yng Nghymru eisoes wedi gweld profion positif ar gyfer Covid-19.

‘Dysgu wyneb yn wyneb yn hanfodol’

Er bod Prifysgol Aberystwyth wedi penderfynu atal addysg wyneb yn wyneb dros dro dywedodd Kirsty Williams fod “dysgu wyneb yn wyneb yn hanfodol i fyfyrwyr a phrifysgolion” yng Nghymru.

“Ar draws Cymru mae myfyrwyr yn cymryd rhan yn llwyddiannus mewn dysgu wyneb yn wyneb yn ogystal ag ar-lein”, meddai.

Bydd Prifysgol Aberystwyth ynghyd â Chyngor Ceredigion yn edrych eto ar y dewis i atal addysg wyneb yn wyneb ddydd Gwener (Hydref 2).

Nadolig

Dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai’r Llywodraeth yn “gwneud popeth i roi cyfle i fyfyrwyr gyrraedd adref ar gyfer y Nadolig”:

“Dyna fy mlaenoriaeth. Fy mlaenoriaeth i yw’r gweinidog addysg a dyma fy mlaenoriaeth fel mam,” meddai.

“Er bod y Nadolig dri mis i ffwrdd mae’n flaenoriaeth gen i i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu teithio adre dros wyliau’r Nadolig”, ychwanegodd.

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford eisoes wedi dweud na fyddai’n diystyru’r posibiliad o wahardd myfyrwyr rhag dychwelyd i’w cartrefi adeg gwyliau’r Nadolig.

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg fod y Llywodraeth yn gweithio gyda phrifysgolion yng Nghymru i sicrhau y bydd canolfannau profi cerdded ar gael i fyfyrwyr.

Yn ôl Kirsty Williams y byddai canolfannau profi cerdded i mewn yn fuddiol i fyfyrwyr sy’n methu gyrru.