Mae grŵp bancio’r TSB wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared a 900 o swyddi, a chau 164 o’u canghennau.

Daw’r toriadau yn sgil “newid sylweddol yn arferion cwsmeriaid” wrth i lai o bobol ddefnyddio canghennau ar y stryd fawr gan ffafrio defnyddio bancio ar-lein, meddai TSB, sydd yn berchen i gwmni o Sbaen.

Roedd cynlluniau ar y gweill i gau rhai canghennau, ond mae’r cynlluniau wedi cael eu gweithredu’n gynt na’r disgwyl yn sgil y pandemig, meddai’r banc.

Cau canghennau ddim yn “benderfyniad hawdd”

Dywedodd Debbie Crosbie, prif weithredwr TSB: “Nid yw’n hawdd penderfynu cau unrhyw gangen, ond mae ein cwsmeriaid yn bancio’n wahanol – gyda symudiad amlwg tuag at fancio digidol.

“Rydym yn ail-ffurfio ein busnes er mwyn trawsnewid profiad ein cwsmeriad, ac i’n paratoi at y dyfodol.

“Golyga hyn bod angen cael cydbwysedd cywir rhwng canghennau ar y stryd fawr a’r platfform digidol, gan ganiatáu i ni allu cynnig y profiad gorau posib i’n cwsmeriaid preifat a busnesau ledled gwledydd Prydain,” esboniodd.

“Rydym yn parhau yn ymroddedig i’n rhwydwaith o ganghennau.”

Dywedodd y cwmni bod toriadau yn cael eu gwneud ar hyd eu canghennau, ynghyd ag yn eu timau morgeisi a gwasanaeth cwsmeriaid.

Meddai Robin Bulloch, Gweithredwr Bancio Cwsmeriaid TSB: “Ar y cyd â’r newidiadau hyn, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y canghennau sydd dal ar agor er mwyn cynnig gwasanaethau bancio o safon uchel, a chynnig gwasanaeth digidol gwell.

“Rydym yn cymryd camau i gefnogi cwsmeriaid bregus mewn ardaloedd gwledig.”

Gweithwyr a chwsmeriaid yn “haeddu gwell” 

Mae grŵp Unite, wedi “annog y banc i ailystyried eu cynlluniau a gwarchod y swyddi pwysig hyn yn ystod y pandemig.

“Mae’r gweithwyr yn haeddu gwell gan eu cyflogwr ar ôl dangos y fath ffyddlondeb i TSB, a bydd cwsmeriaid yn cael eu heffeithio’n arw drwy gau canghennau,” meddai Dominic Hook, Swyddog Cenedlaethol Unite.

“Mae Unite wedi dadlau ers tro fod gan y diwydiant bancio gyfrifoldeb cymdeithasol i beidio amddifadu cwsmeriaid lleol, sydd yn parhau i fod angen mynediad i fanciau lleol.”