Mae wyth o bobl wedi marw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ôl i 82 o achosion o’r coronafeirws gael eu nodi yno.
Mae cyfyngiadau dros dro ar wasanaethau bellach wedi’u rhoi ar waith yn yr ysbyty, gan gynnwys atal llawdriniaethau, ac eithrio nifer fach o achosion canser brys.
Yn gynharach heddiw (dydd Mercher 30 Medi), cyflwynwyd cyfyngiadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf mewn ymdrech i helpu i reoli’r achosion, sydd wedi’u cysylltu â throsglwyddo ar safle’r ysbyty.
Mae chwe chlaf mewn gofal dwys yn yr ysbyty ar hyn o bryd, sydd yn Rhondda Cynon Taf – un o ardaloedd Cymru sy’n destun cyfyngiadau cloi lleol.
“Sefyllfa ddifrifol”
Ddydd Mercher, yn sesiwn friffio Llywodraeth Cymru i’r wasg, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi arwain at yr achosion.
“Rydym yn deall bod hon yn sefyllfa ddifrifol a pha mor ofidus ydyw i bawb sy’n gysylltiedig,” meddai.
“Rydym yn gweithio gydag uwch dîm rheoli’r Awdurdod Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall ac, yn hollbwysig, i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi codi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg er mwyn rheoli’r achosion hynny a dysgu gwersi fel y gellir [defnyddio’r gwersi hynny] mewn lleoliadau gofal iechyd eraill.”
Ychwanegodd: “Mae’r sefyllfa’n un sy’n peri pryder, ac mae pob cam yn cael ei gymryd i amddiffyn cleifion presennol, staff, ac i sicrhau bod y preswylwyr hynny a oedd i fod i adael yr ysbyty yn cael eu cyfeirio at ofal priodol mewn ysbytai eraill yn y cyffiniau.”
Daw’r cynnydd mewn achosion yn yr ysbyty wythnos ar ôl i’r bwrdd iechyd ddweud bod 34 o achosion o Covid-19 wedi’u cofnodi ar draws dwy o’i wardiau, wedi’u cysylltu’n bennaf â throsglwyddo o fewn y safle.
Trefniadau dros dro diweddaraf
Bydd oedolion sydd angen eu derbyn i’r ysbyty ar frys yn dilyn asesiad naill ai’n cael eu cludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, neu Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Bydd yr adran achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn parhau ar agor i gleifion galw-i-mewn a’r rhai y gellir eu trin o fewn yr adran.
Bydd cleifion Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac eithrio plant, yn cael eu dargyfeirio i’r ysbytai eraill.
Bydd y wardiau pediatrig hunangynhwysol yn yr ysbyty yn aros ar agor, tra bydd canolfan eni Tirion yn ailagor ar 5 Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd ei fod yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynyddu capasiti a chyflymder y profion a’r canlyniadau i gleifion a staff.